Canlyniadau'r pôl piniwn
Ni fyddai 47% o bobl yn fodlon talu tanysgrifiad i wylio S4C, yn ôl pôl piniwn o ddarllenwyr Golwg360 – gyda’r union yr un canran yn dweud y bydden nhw’n barod i wneud.
Cafodd y cwestiwn ei holi ar y wefan wythnos diwethaf, yn dilyn llawer o sôn ynglŷn â dyfodol darlledu ym Mhrydain a sut fydd sianeli fel y BBC ac S4C yn cael eu hariannu.
Fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale y gallai pobl orfod tanysgrifio i’r BBC, y gorfforaeth sydd hefyd yn cyllido S4C ar hyn o bryd, yn y dyfodol.
Mewn ymateb i’r pôl piniwn yn holi a fyddech chi’n fodlon talu i wylio S4C petai newid o’r fath yn cael ei gyflwyno, fodd bynnag, dywedodd 47% o bron i 150 o ymatebion na fydden nhw.
Ond yn ôl 47% o’r ymatebion fe fuasen nhw’n fodlon tanysgrifio i wylio’r sianel Gymreig, gyda bron i 7% ‘ddim yn siŵr’.
Dywedodd 21% y buasen nhw’n fodlon talu hyd at £5 y mis o danysgrifiad i wylio S4C, gyda 12% yn hapus i dalu hyd at £10 y mis ac 14% yn fodlon talu dros £10.
‘Pam newid?’
Wrth ymateb i’r pôl heddiw fe ddywedodd prif weithredwr S4C Ian Jones nad oedd yn rhagweld y byddai’n rhaid ystyried symud tuag at fodel cyllido o danysgrifio ar gyfer y sianel yn y dyfodol agos.
“Dw i ddim yn meddwl mai dyna’r model iawn a dw i ddim yn meddwl bod hynny erioed wedi ei awgrymu i S4C ar hyd y 30 mlynedd o’i bodolaeth,” meddai Ian Jones wrth Golwg360.
“Dw i’n meddwl bod y drefn bresennol yn gweithio, ac os yw e’n gweithio, pam ddylen ni newid e?”
Dadansoddiad Iolo Cheung
Mae’n edrych yn debygol fod dyfodol ariannol S4C yn bwnc fydd yn cael ei drafod yn helaeth dros y misoedd a blynyddoedd i ddod, ac roedd yr ymateb i’r cwestiwn am danysgrifio yn ddiddorol tu hwnt.
Rhaid nodi, wrth gwrs, mai cwestiwn damcaniaethol oedd yn cael ei ofyn yn y pôl piniwn – hynny yw, does dim cynlluniau wedi cael eu cyflwyno ar hyn o bryd o gwbl i geisio symud S4C tuag at y model yma o ariannu, ac mae’n bur debygol y byddai gwrthwynebiad sylweddol petai hynny’n digwydd.
Ond gyda chwestiynau tebyg eisoes wedi codi am y BBC, sydd wrth gwrs yn cyllido S4C, tybed faint o bobl fyddai’n fodlon talu i wylio’r sianel petai newid o’r fath yn digwydd yn y dyfodol?
Doedd hi ddim yn syndod efallai gweld bod cyfran sylweddol ddim yn fodlon talu, a hynny mae’n siŵr am nifer o resymau – efallai nad ydyn nhw’n gwylio S4C ar hyn o bryd beth bynnag, wedi arfer cael y sianel am ddim ac felly’n gyndyn o danysgrifio, neu yn erbyn y syniad o ran egwyddor.
Ond mae’n amlwg bod llawer o bobl hefyd yn gwerthfawrogi’r sianel, fel yr unig un Gymreig yn y byd, ac yn fodlon cyfrannu petai rhaid er mwyn parhau i’w gwylio.
I roi syniad i chi, rhyw £12.40 y mis sydd yn rhaid ei dalu ar hyn o bryd am y ffi drwyddedu i wylio teledu lliw – ac roedd 14% o’r bobl atebodd bôl piniwn golwg360 yn fodlon talu swm tebyg i hynny dim ond i wylio S4C!
Gyda 21% yn fodlon talu hyd at £5, a dros chwarter yn fodlon talu mwy na hynny, mae’n ymddangos fel y byddai cryn dipyn o bobl yn fodlon tanysgrifio i wylio’r sianel am bris tebyg i wasanaethau fel Netflix.
Ond fe fydd llawer yn gobeithio nad yw’n dod i hynny, wrth gwrs, yn enwedig o ystyried y byddai’r sianel yn debygol o golli rhai o’r gwylwyr fyddai ddim mor barod i fynd i’w pocedi.