Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones wedi dweud bod angen sicrhau arian digonol i’r sianel yn y dyfodol er mwyn gallu ymateb i heriau sy’n codi ym maes darlledu.
Daw sylwadau Huw Jones yn dilyn cyhoeddi adroddiad blynyddol S4C, sy’n dangos cynnydd yn nifer y gwylwyr blynyddol ar y teledu ac ar-lein.
Ffigurau allweddol
Roedd cynnydd blynyddol o 10% yn y cyfanswm o wylwyr teledu wythnosol, o 551,000 yn 2013-14 i 605,000 yn 2014-15.
Cynyddu hefyd wnaeth y nifer o sesiynau gwylio ar-lein, a hynny o 4.4 miliwn yn 2013-14 i 5.7 miliwn yn 2014-15.
Ond roedd gostyngiad wythnosol o 6% yn nifer y bobol oedd yn gwylio S4C bob wythnos, o 383,000 yn 2013-14 i 360,000 yn 2014-15.
Mae’r gostyngiadau yn nifer y gwylwyr yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod cost yr awr holl gynnwys S4C hefyd i lawr i £10,709, sef gostyngiad o 35% ers 2009.
Serch hynny, roedd S4C wedi cyfrannu £117 miliwn at economi Cymru yn ystod y flwyddyn.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gwerthfawrogiad gwylwyr o S4C yn uwch na sianeli eraill, wrth i 84% ddweud bod y sianel yn dangos sut beth yw hi i fyw yng Nghymru.
Yn eu hadroddiad, mae S4C yn dweud bod yr Awdurdod yn eu canmol am ansawdd y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn.
Ond mae pryder o hyd am y ffordd y mae’r wasgfa ariannol yn effeithio cyllideb S4C, sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer y rhaglenni sy’n cael eu hail-ddangos ar draul rhaglenni newydd.
‘Adeg dyngedfennol’
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Mae’r adroddiad hwn yn ymddangos ar adeg dyngedfennol yn hanes S4C wrth i’r Llywodraeth roi cychwyn i’r drafodaeth am ariannu ar gyfer y dyfodol.
“Gwelwn gynnydd sylweddol mewn gwylio o S4C ar y teledu ar draws Prydain.
“Yn ystod yr un cyfnod gwelwyd gostyngiad yng Nghymru, sydd ddim yn annhebyg i’r hyn a welodd nifer o sianelau gwasanaeth cyhoeddus eraill.
“Ar yr un pryd mae yna gynnydd mawr, yn ôl y disgwyl, mewn gwylio ar-lein.
“Mae ein hymchwil yn cadarnhau bod yna werthfawrogiad cryf o’r gwasanaeth y mae S4C yn ei ddarparu.”
‘S4C yn wynebu dwy her’
Mae ffigyrau’r adroddiad yn dangos bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg sy’n gwylio’r gwasanaeth teledu yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y flwyddyn, tra bod y niferoedd sy’n gwylio y tu allan i Gymru wedi cynyddu’n sylweddol.
Ychwanegodd Huw Jones: “Mae’n ymddangos ein bod yn edrych ar sefyllfa lle mae pobl sydd wedi symud allan o Gymru yn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad â’r bywyd Cymraeg a Chymreig mewn niferoedd cynyddol.
“Ond hefyd mae gwylwyr iau yn troi oddi wrth y sgrin deledu at gyfryngau newydd, ac mae Cymry ifanc ar gyfartaledd yn llai tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg na phobl hŷn.
“Rhaid i S4C wynebu’r ddwy her yma yr un pryd – tra’n dal i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa sy’n disgwyl arlwy cyson o ddeunydd newydd ar y sgrin draddodiadol.
“Bydd sicrhau cyllid digonol i gyflawni’r dasg amlochrog hon yn y dyfodol yn hanfodol.”
‘Blwyddyn heriol’
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Roedd 2014/15 yn flwyddyn heriol arall i staff S4C a’r sector cynhyrchu yng Nghymru, ac rwy’n ffyddiog bod casgliadau’r adroddiad yma’n dangos bod gwaith caled y blynyddoedd diwethaf yn dwyn ffrwyth mewn ffyrdd cadarnhaol iawn.
“Er y cynnydd amlwg yng nghyfanswm y gwylio ar y sgrin ac ar-lein, fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau, yn enwedig wrth i dueddiadau gwylio awgrymu bod llai o Gymry Cymraeg yng Nghymru’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg.
“Ond gyda rhan sylweddol o gynulleidfa S4C yn gwylio o’r tu allan i Gymru, mae’n ymddangos bod niferoedd mawr yn gwerthfawrogi’n gwasanaeth fel modd o gadw cysylltiad â’u mamwlad, a’u mamiaith, yn ogystal â fel ffynhonnell o adloniant a gwybodaeth.
“Y flaenoriaeth nawr yw cynnal safon y gwasanaeth er mwyn parhau i gynyddu poblogrwydd y cynnwys. Fydd hynny ond yn bosib os bydd gan y gwasanaeth arian digonol wrth gwrs, ac yn hynny o beth y mae’r cyfrifoldeb arnom i gyd i sicrhau bod annibyniaeth a chyllid digonol S4C yn cael ei ddiogelu i’r dyfodol.”
Mae modd darllen yr adroddiad blynyddol yn llawn yma: