Ceisio dod a chornel fach o fwrlwm y gyfres deledu Downton Abbey i Ben Llŷn yw bwriad Guto Dafydd wrth i’r awdur ifanc gyhoeddi ei nofel gyntaf.
Fe welodd y stori Stad olau dydd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014, pan ddaeth yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith – yr un flwyddyn ag enillodd Guto Dafydd y Goron.
Mae’r nofel bellach wedi cael ei chyhoeddi gan wasg y Lolfa, gyda lansiad yn cael ei chynnal dros y penwythnos a’r gyfrol nawr ar silffoedd y siopau.
“Dyma nofel swmpus a darllenadwy sy’n mynd i apelio at gynulleidfa eang,” meddai Meinir Wyn Edwards o wasg y Lolfa.
‘Diddanu’
Mae’r nofel yn adrodd stori adfer plas hynafol, Cefn Mathredig, ym Mhen Llŷn, ble mae’r etifedd Theo yn dychwelyd o Lundain gyda Gaia, ei gariad o Saesnes, i ganfod y lle mewn cyflwr truenus.
Ond er bod Theo a Gaia yn wynebu heriau wrth geisio gwneud y stad o siaradwyr Cymreig yn un llewyrchus, mae’r awdur wedi ceisio osgoi adrodd stori rhy ddwys a difrifol.
“Diddanu oedd fy mhrif nod wrth greu’r nofel,” meddai Guto Dafydd.
“Roedd arna i eisiau ail-greu ysblander a phrysurdeb Downton Abbey, a dweud stori serch afaelgar ac ysgafn fel ffilmiau Hugh Grant.
“Ro’n i am greu nofel y gallai pobl ei darllen gyda choctel ar y traeth, a chael eu hudo gan stad odidog Cefn Mathedrig, a’u denu i fyd cymhleth y cymeriadau a’u problemau.”
Cwestiynu’r Cymry
Nid adrodd hynt a helynt y plas oedd unig fwriad yr awdur, fodd bynnag, gyda Guto Dafydd yn cyfaddef ei fod wedi cymryd y cyfle i holi cwestiynau ehangach am feddylfryd y Cymry.
“Ro’n i hefyd yn awyddus i ofyn cwestiynau ynghylch ein perthynas ni fel Cymry â’n bröydd, ein hunaniaeth a’n treftadaeth – pethau weithiau sy’n teimlo fel dyletswydd a chyfrifoldeb o’r oes o’r blaen,” esboniodd yr awdur.
“Un o brif themâu’r nofel ydi sut mae pobl o’r tu allan, weithiau, yn gwerthfawrogi’n hetifeddiaeth fwy na’r Cymry brodorol, ac yn fwy parod i dorchi llewys i’w hadfer.”
Yn ôl Meinir Wyn Edwards, mae dyfodol disglair iawn gan yr awdur a’r llenor.
“Er taw awdur ifanc o ran oed yw Guto, mae aeddfedrwydd yn ei waith wrth drin geiriau, creu cymeriadau credadwy a llunio stori fyrlymus ac iddi hiwmor gwbl Gymreig,” meddai.
“Mae’n nofel sy’n codi nifer o gwestiynau ac yn pigo cydwybod.”