Rhys Ifans
Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu Gradd Anrhydeddus (DLitt) i’r actor o Gymru, Rhys Ifans.

Cafodd y radd ei chyflwyno i Rhys Ifans heddiw yn ystod seremoni raddio Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

‘Anrhydedd’

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Rhys Ifans, “Anrhydedd fawr yw derbyn y radd hon.

“Mae bob amser yn hyfryd i dderbyn cydnabyddiaeth am eich gwaith, ac mae’n golygu llawer i mi fod y gydnabyddiaeth yn dod oddi wrth brifysgol mor fawreddog mewn dinas sydd mor agos at fy nghalon. Diolch yn fawr iawn.”

Cefndir

Cafodd Rhys Owain Evans (newidiodd ei enw i Rhys Ifans) ei eni ar 22 Gorffennaf 1967 yn Hwlffordd, Sir Benfro. Cymraeg yw ei iaith gyntaf ac mae’n fab i Beti Wyn ac Eirwyn Evans.

Yn Rhuthun, gogledd Cymru, y cafodd ei fagu ac yno derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn, cyn mynychu Ysgol Maes Garmon, yn Yr Wyddgrug.

Bu hefyd yn mynychu ysgolion actio Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, a chafodd hyfforddiant yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall.

Spike

Ymddangosodd Ifans mewn nifer o raglenni teledu Cymraeg cyn dechrau gyrfa mewn ffilmiau, yn ogystal â pherfformio yn y Theatr Genedlaethol Frenhinol yn Llundain a Theatr y Royal Exchange ym Manceinion.

Daeth i enwogrwydd gyntaf yn y ffilm eiconig a seiliwyd yn Abertawe, Twin Town (1997), gan chwarae’r gefell, Jeremy Lewis, gyda’i frawd, sydd hefyd yn actor, Llŷr Ifans. Aeth ymlaen i ennill sylw yn rhyngwladol gyda’i rôl fel cydletywr Hugh Grant, Spike, yn y ffilm Notting Hill ym 1999.

Mae wedi chwarae cymeriadau amrywiol megis Dr Curt Connors/The Lizard yn The Amazing Spider-Man; Edward de Ver, Ail Iarll ar Bymtheg Rhydychen, yn Anonymous; a Xenophilius Lovegood yn Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1.

Bafta

Yn 2005, enillodd Rhys Ifans Bafta am bortreadu’r digrifwr Peter Cook yn y ffilm Not Only but Always ar y teledu. Mae ganddo rôl achlysurol fel Mycroft Holmes yn y gyfres ar CBS, Elementary, a daeth i enwogrwydd yn yr Unol Daleithiau am chwarae Nigel Gruff, cyn-bêl-droediwr a ddaeth yn bêl-droediwr Americanaidd â phroblem gamblo yn y ffilm The Replacements yn 2000.

Fis Rhagfyr 2006 dychwelodd i’r llwyfan yn Llundain yng nghynhyrchiad Michael Grandage o Don Juan yn Soho yn y Donmar Warehouse. Ymddangosodd cyn hynny yn y Donmar yn Accidental Death of an Anarchist yn 2003. Mae ei waith cynharach ar y llwyfan yn cynnwys Hamlet yn Theatr Clwyd, A Midsummer Night’s Dream yn Theatr Parc Regent ac Under Milk Wood a Volpone yn y Theatr Genedlaethol Frenhinol.

Fis Gorffennaf 2007 derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Bangor yng ngogledd Cymru am ei wasanaethau i’r diwydiant ffilmiau.

The Peth

Yn ogystal ag actio, mae Rhys Ifans wedi mwynhau gyrfa ganu, ac am gyfnod byr ef oedd prif ganwr y grŵp roc o Gymru, Super Furry Animals. Ar hyn o bryd mae’n canu gyda’r band roc seicedelig o Gymru, The Peth.

Ym mis Medi 2012 daeth yn noddwr y gymdeithas newydd, Llwybrau Byw, i hybu a datblygu fersiwn Gymraeg gwefan Wikipedia, Wicipedia Cymraeg.