David Cameron
Fe fydd deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys mynd i’r afael ag eithafwyr di-drais sy’n ceisio radicaleiddio pobl ifanc, meddai David Cameron heddiw.

Mae’r gweithredu yn erbyn eithafwyr Islamaidd yn rhan o gynllun pum mlynedd i fynd i’r afael ag eithafiaeth ym Mhrydain.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y daliadau eithafol wedi arwain at 700 o Brydeinwyr ifanc yn teithio dramor i ymladd gyda grŵp eithafol IS a bod rhieni Mwslimaidd yn “byw mewn ofn” bod eu plant wedi cael eu radicaleiddio.

Mewn araith yn Birmingham, fe gyhoeddodd David Cameron gynlluniau ar gyfer cynllun newydd a fydd yn caniatáu i rieni wneud cais i ganslo pasbort eu plant os ydyn nhw’n amau eu bod wedi cael eu radicaleiddio ac yn bwriadu teithio dramor.

Dywedodd Cameron bod yn rhaid gwneud pobl ifanc yn ymwybodol o realiti’r ffordd o fyw mewn rhannau o Irac a Syria sydd yn cael eu rheoli gan IS.

“Mae’n rhaid i ni gymryd camau yn erbyn yr eithafwyr dylanwadol sy’n ofalus i weithredu o fewn y gyfraith ond sy’n amlwg yn casáu cymdeithas Prydain a phopeth rydym ni’n sefyll amdano,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn bwysig gorfodi gwerthoedd o ryddid a democratiaeth ymhlith grwpiau lleiafrifol.

Fe fydd y Llywodraeth, meddai, yn cyhoeddi strategaeth gwrth-eithafiaeth yn yr hydref, gan amlinellu cyfres o fesurau yn yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel “brwydr ein cenhedlaeth.”