Mae cymdeithas foduro’r AA wedi croesawu’r  gostyngiad ym mhris disel, wrth i’r pris ostwng yn is na phetrol am y tro cyntaf ers pymtheg mlynedd.

Serch hynny mae’r AA yn dweud bod gyrwyr wedi aros yn rhy hir am y gostyngiad.

Mae’n dilyn cyhoeddiad gan archfarchnadoedd eu bod yn gostwng prisiau disel o ddwy geiniog y litr.

Dywedodd llefarydd ar ran y AA:  “Er ein bod yn croesawu’r penderfyniad gan archfarchnadoedd i ostwng y pris yn is na phris petrol, mae’r pris mwy realistig yma wedi bod yn hir yn dod.

“Fe wnaeth yr AA ddweud eu bod yn codi gormod ar ddisel mewn cymhariaeth a phetrol ym mis Ebrill, ac mae’r tri mis a hanner yn 2015 yn golygu fod pobl wedi bod yn talu gormod.”

Ychwanegodd, “Mae’n amser i’r Llywodraeth adfywio’r ymgais yn 2012 i orfodi’r diwydiant tanwydd i ddangos yn fanwl brisiau olew mewn cymhariaeth a’r pris wrth y pwmp gan ddwyn i ystyriaeth y gyfradd ariannol. Yn syml, mae angen pris teg.”

Mae sawl archfarchnad yn cynnwys Asda, Tesco a Sainsbury’s wedi cyhoeddi eu bod yn gostwng eu prisiau disel heddiw neu yfory.

Fe ddywedodd cyfarwyddwr yr RAC Foundation, Steve Gooding: “Mae hyn yn newyddion da i 10 miliwn o yrwyr disel ond mae’n ymddangos y byddant wedi gallu gwneud arbedion fisoedd yn ôl gan fod pris disel wedi gostwng yn is na phris petrol ynghanol mis Mai.”