Mae dyn 34 oed wedi ymddangos yn y llys y bore ma ar gyhuddiad o lofruddio gyrrwr 79 oed mewn digwyddiad ar yr A24 yng ngorllewin Sussex.

Bu farw Donald Lock yn y fan a’r lle ar ôl cael ei drywanu nifer o weithiau gyda chyllell yn dilyn achos o gythraul gyrru honedig yn Findon, ger Worthing, nos Iau ddiwethaf.

Cafodd Matthew Daley, 34, o Worthing, ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron Llys Ynadon Crawley ar gyhuddiad o’i lofruddio. Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod a chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Cafodd Donald Lock ei ddisgrifio gan ei deulu fel  dyn addfwyn a chariadus, a oedd yn dychwelyd o gyfarfod seiclo pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cafodd Donald Lock wybod ei fod wedi gwella o gancr y brostad yn ddiweddar ac yr oedd ar fin bod yn hen daid am y chweched tro.

Fe fydd Daley yn mynd o flaen Llys y Goron Hove yfory.