Senedd Gwlad Groeg
Mae banciau Gwlad Groeg wedi ail-agor heddiw ar ôl bod ar gau am dair wythnos.

Ond mae yna gyfyngiadau o hyd ynglŷn â faint o arian parod  mae pobl y wlad yn gallu codi o’r banciau. Mae modd codi hyd at 420 Ewro (£292) am yr wythnos ar hyn o bryd.

Dros y penwythnos daeth mesurau llymder, gafodd eu cymeradwyo gan y Llywodraeth yn Athen wythnos diwethaf, i rym.

Un o’r mesurau yw cynyddu Treth ar Werth (VAT) o 13% i 23% .

Bydd hyn yn golygu bod llawer o nwyddau megis olew olewydd, finegr, halen, blodau, coed tân, gwrtaith, a phryfleiddiaid, yn mynd yn ddrytach.

Bydd dyddiad cau i gwblhau ffurflenni treth incwm yn cael ei ohirio am fis, i Awst 26.

Yn ogystal bydd newidiadau o fewn y Llywodraeth, gyda phlaid Syriza sy’n arwain y glymblaid, yn  gorfod llenwi pum swydd yn dilyn ymddiswyddiadau a diswyddiadau aelodau oedd yn gwrthwynebu’r mesurau newydd.

Ers i’r Prif Weinidog Alexis Tsipras ddychwelyd o Frwsel i Wlad Groeg wedi iddo dderbyn pecyn ariannol gwerth 85 biliwn Ewro, mae protestiadau wedi cael eu cynnal yn Athen a gweithwyr yn bygwth mynd ar streic.