Mae ymchwiliad ar y gweill i dân mewn melin goed yn Sir Gaer, wrth i’r heddlu barhau i chwilio am bedwar o bobol aeth ar goll.

Mae swyddogion yn chwilio dwy ardal o adfeilion yr adeilad yn Bosley.

Y rhai sydd ar goll yw Williams Barks (51), Dorothy Bailey (62), Jason Shingler (38) a Derek Moore (62).

Dywedodd llefarydd fod yr “amgylchfyd yn heriol dros ben”.

Ond ychwanegodd ei fod yn sicr bod y timau’n chwilio’r ardaloedd cywir.

Mae lle i gredu bod y pedwar – tri dyn a dynes – yn yr adeilad ger safle’r ffrwydrad am 9.10 fore Gwener.