Mae saith o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i fws daro yn erbyn pont yn ne Llundain neithiwr.
Cafodd to’r bws dau lawr ei rwygo i ffwrdd yn y gwrthdrawiad yn Norwood toc wedi 9 o’r gloch.
Cafodd y saith driniaeth am eu hanafiadau yn y fan a’r lle.
Cafodd pedwar ohonyn nhw eu cludo i’r ysbyty yn Croydon.
Mae un o reolwyr trafnidiaeth Llundain wedi cadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill.