Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod creu rhagor o gilfachau parcio ar hyd yr A470 ym Mhowys.

Roedd ymgyrchwyr wedi bod yn galw am lefydd ychwanegol ar hyd yr A470 rhwng Llanidloes a’r Drenewydd.

Roedden nhw’n honni mai dau le addas yn unig i’r ddau gyfeiriad sydd i stopio rhwng y ddwy dref.

Ond dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart fod 18 o lefydd addas ar hyd y ffordd eisoes.