Mae Heddlu’r De’n ymchwilio ar ôl i gorff dyn 70 oed gael ei ddarganfod ger ffordd brysur ym Mhort Talbot nos Wener.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar ymyl yr A48 rhwng Amlosgfa Margam a maes chwaraeon Tata am 10 o’r gloch y nos.
Mae lle i gredu bod y dyn yn dod o Faglan, ond dydy e ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.
Pan gafodd ei ddarganfod, roedd y dyn yn gwisgo tracwisg du ac esgidiau du.
Dydy’r heddlu ddim yn trin yr achos fel un amheus.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.