Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn debygol o wynebu cwestiynau anodd wrth i gadarnhad ddod heddiw bod Aelodau Seneddol am dderbyn codiad cyflog o 10%.

Dywedodd y corff annibynnol sydd yn penodi lefel eu cyflog, Ipsa, nad oedd modd osgoi’r mater mwyach gan gynyddu tâl yr ASau o £67,000 i £74,000.

Roedd David Cameron wedi dweud y byddai codiad cyflog o gymaint â hynny yn “annerbyniol” mewn cyfnod o wasgfa ariannol cyffredinol.

Mae Stryd Downing wedi cadarnhau y bydd y Prif Weinidog yn derbyn ei godiad cyflog o 10% fel AS ond maen nhw wedi gwrthod dweud a fydd yn rhoi’r arian i elusen.

Cyflogau sector gyhoeddus

Daw’r newid ar ôl i gyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus gael eu rhewi ar ddim ond 1% am y pedair blynedd nesaf.

Roedd y newidiadau i gyflogau ASau hefyd i fod i gynyddu’r lefel yn unol â chyflogau cyfartalog y DU, a allai fod wedi cynyddu’r cyflog o ryw £23,000 erbyn 2020.

Yn lle hynny nawr fe fydd cyflogau’r gwleidyddion yn cynyddu ar yr un raddfa a chynnydd yng nghyflogau’r sector gyhoeddus.

Ond mae gwleidyddion o bob cwr o Dŷ’r Cyffredin wedi awgrymu na fyddan nhw’n derbyn y codiad cyflog gan gynnwys Nicky Morgan, Philip Hammond a Michael Gove o’r Ceidwadwyr ac Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall o’r Blaid Lafur.

Ond gwrthododd llefarydd ar ran David Cameron ddweud beth fyddai’n ei wneud â’r codiad cyflog.

“Y llywodraeth sydd yn gwneud y penderfyniad ar gyflogau sector gyhoeddus. Ipsa sydd yn gwneud y penderfyniad ar gyflogau ASau,” meddai’r llefarydd.

Ipsa’n cyfiawnhau

Cafodd y codiad cyflog ei awgrymu gyntaf gan Ipsa yn 2013, yn dilyn pryderon nad oedd Aelodau Seneddol yn cael eu talu cymaint â phobl mewn swyddi cymharol.

Y corff annibynnol hwn, nid yr ASau eu hunain, sydd bellach yn gyfrifol am benodi’r lefel o dâl ac fe ddywedodd cadeirydd y corff Syr Ian Kennedy bod cyfiawnhad dros y cynnydd.

“Wrth wneud y penderfyniad hwn rydyn ni’n llwyr ymwybodol o’r farn gref sydd gan lawer o aelodau o’r cyhoedd a rhai o’r ASau eu hunain,” meddai Syr Ian Kennedy.

“Yn ystod y Senedd ddiwethaf fe gynyddodd cyflogau ASau o 2%, o’i gymharu â 5% yn y sector gyhoeddus a 10% yn yr economi gyfan. Mae’n briodol  ein bod ni’n gwneud yr un cynnydd yma ac yna’n creu’r cyswllt rhwng tâl ASau a chyflogau’r sector gyhoeddus.”