y Democratiaid Rhyddfrydol yn dewis olynydd i Nick Clegg
Fe fydd Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhoeddi heddiw pwy sydd wedi cael ei ddewis fel arweinydd newydd y blaid i olynu Nick Clegg.
Bu tua 60,000 o aelodau’r blaid yn pleidleisio i ddewis rhwng Norman Lamb a Tim Farron, gyda chyn-lywydd y blaid, Tim Farron, yn ffefryn gan y bwcis.
Ond mae gan yr arweinydd newydd her o’i flaen yn dilyn etholiad cyffredinol trychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol a welodd y blaid yn colli 49 o seddi yn Nhŷ’r Cyffredin yn dilyn pum mlynedd o Glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.