Y gwesty yn Zurich, Y Swistir, lle cafodd swyddogion Fifa eu harestio
Mae un o’r saith o swyddogion Fifa gafodd eu harestio yn Zurich fel rhan o ymchwiliad i lygredd wedi cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.
Dywedodd yr awdurdodau yn y Swistir fod y swyddog, sydd heb gael ei enwi, wedi cael ei estraddodi ddydd Mercher.
Cafodd y dyn ei drosglwyddo i dri o swyddogion yr heddlu o’r Unol Daleithiau oedd gydag o ar yr awyren i Efrog Newydd.
Cytunodd y dyn i gael ei estraddodi’r wythnos diwethaf. Mae’r chwe dyn arall gafodd eu harestio yn apelio yn erbyn cael eu hestraddodi.