Mae troseddu wedi gostwng i’w lefel isaf ers 1981 yng Nghymru a Lloegr yn ôl arolwg o ddioddefwyr trosedd cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Ond mae’r heddlu wedi cofnodi cynnydd sylweddol mewn achosion o droseddau rhyw.

Mae’r ffigyrau diweddaraf o Arolwg Troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr yn amcangyfrif fod 6.8 miliwn o droseddau wedi digwydd yn 2014/15 – gostyngiad o 7% o’r flwyddyn flaenorol.

Ond mae troseddau rhyw a gofnodwyd gan yr heddlu wedi codi 37%, gyda nifer yr achosion o drais rhywiol – 29,265 – a throseddau rhyw eraill – 58,954 – ar y lefel uchaf ers cyflwyno’r safon cofnodi troseddau cenedlaethol 12 mlynedd yn ôl.

Mae data’r heddlu ar gyfer troseddau a gofnodwyd yn dangos fod troseddau trais rhywiol wedi codi mwy na 100% yn y 10 mlynedd diwethaf.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y cynnydd yn rhannol oherwydd bod “mwy o barodrwydd i adrodd am droseddau o’r fath”.

Y cynnydd mwyaf oedd troseddau sy’n ymwneud ag amharu ar gerbydau – i fyny 88% ar yr un cyfnod y llynedd.

Roedd troseddau anhrefn cyhoeddus wedi cynyddu 19% ac roedd ‘na hefyd gynnydd o 9% mewn troseddau yn ymwneud a thwyll.

Cyhoeddwyd y ffigurau wrth i Lywodraeth y DU ddweud fod nifer yr heddweision wedi gostwng  mwy na 2,200 yn ystod y 12 mis hyd at 31 Mawrth 2015.