Chris Grayling
Fe fydd Gweinidogion Llywodraeth Prydain yn amddiffyn y cynllun i roi pleidlais i’r Sais dros faterion Seisnig (EVEL) pan fydd y mater yn cael ei drafod yn San Steffan heddiw.

Roedd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Chris Grayling wedi gobeithio cyflwyno newidiadau mawr yn y ffordd mae’r Tŷ yn craffu ar ddeddfau newydd er mwyn sicrhau y gallai’r Saeson – neu’r Saeson a’r Cymry – gael dweud eu dweud ar fesurau sydd ddim yn berthnasol i’r Alban.

Ond yn dilyn gwrthwynebiad i’r cynllun gan y Blaid Lafur a’r SNP – a rhai o aelodau meinciau cefn y Llywodraeth – cynnig Grayling bellach yw dadl mewn dwy ran hyd at fis Medi.

Yn gysgod dros y ddadl gyntaf fydd trafodaeth ar newid y ddeddf hela, ar ôl i’r SNP addo pleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i lacio’r rheolau ar hela llwynogod.

‘Llanast llwyr’

Roedd disgwyl i’r bleidlais ar hela gael ei chynnal cyn y ddadl am ddeddfau Seisnig, ond mae’n debygol y byddai penderfyniad yr SNP i beidio cymryd rhan wedi arwain at golli’r bleidlais.

Cafodd y ddadl ei gohirio’n gyhoeddus yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe gan Chris Grayling – ond nid cyn i’r cyfryngau gyhoeddi’r newyddion.

Dywedodd Aelod Seneddol yr SNP, Pete Wishart fod y Llywodraeth yn “siambls llwyr”.

“Mae angen i ni gael tynnu’r cynlluniau hyn o’r Tŷ, maen nhw’n llanast llwyr.

“Yr hyn sy’n rhaid i chi ddod ’nôl ag e i’r Tŷ yw dulliau cywir o ymdrin â hyn, sef deddfwriaeth.”

Er gwaetha’r cynlluniau i roi pleidleisiau Seisnig ar ddeddfau Seisnig, ni fyddai’r drefn newydd yn berthnasol i’r Gyllideb na materion ariannol eraill.