Roedd cronfa arbennig i adfywio ardaloedd tlawd wedi colli bron £9 miliwn o bunnoedd wrth werthu tir cyhoeddus am bris llawer is na’i werth, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Yn ôl  yr Archwilydd, doedd y Gronfa ddim wedi cael pris annibynnol, ddim wedi marchnata’r tir yn agored na chael cyngor proffesiynol.

Yn awr mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i ddisgyblu ac ystyried diswyddo’r gweinidogion oedd â gofal o’r cynllun.

Y diffygion

Roedd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwerthu 15 uned o dir ac eiddo i gwmni newydd, South Wales Land Developments, sydd â’i bencadlys yn noddfa drethi Guernsey.

Roedd cwestiynau wedi eu codi’n syth pam fod yr unedau wedi’u gwerthu gyda’i gilydd mewn bargen breifat gydag un cwmni.

Yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol, doedd y Gronfa ddim wedi sicrhau potensial llawn yr asedau.

Roedden nhw wedi gwerthu’r tir, heb ystyried y byddai ei werth yn codi’n sylweddol ar ôl cael hawl cynllunio i’w ddatblygu.

Dim llog

Yn ôl yr adroddiad, roedd gan saith o’r safleoedd botensial datblygu, ac roedden nhw wedi eu gwerthu i un cwmni’n unig ar farchnad breifat.

Dim ond mewn dau achos yr oedd y Gronfa wedi sicrhau y byddai hi’n cael rhan o’r elw o’r cynnydd yng ngwerth y tir.

“Petai rhai o’r safleoedd wedi mynd ar y farchnad yn ddiweddarach, gallent fod wedi cael prisiau sylweddol uwch a chynhyrchu mwy o arian i’w fuddsoddi mewn adfywio ledled Cymru”, meddai’r Archwilydd, Huw Vaughan Thomas.

Yn ôl ei amcangyfri’ ef, gallai’r tir fod wedi codi £30 miliwn yn hytrach na’r pris a gafwyd o £21.7 miliwn.

Ar ben hynny, roedd yr arian wedi’i dalu fesul tipyn tros ddwy flynedd, heb godi dim llog.

Dau achos trawiadol

Roedd un o’r achosion mwya’ trawiadol yn ymwneud â 120 erw o dir yn ardal Llysfaen yng Nghaerdydd – fe gafodd ei werthu am bris tir amaethyddol ond, yn fuan wedyn, fe gafodd ei gynnwys mewn ardaloedd datblygu posib gan Gyngor Llafur Caerdydd.

Yn ôl un amcangyfri’, fe allai hynny godi gwerth y tir i tua £1 miliwn yr erw yn hytrach na £15,000 – er y byddai’r Llywodraeth yn gallu hawlio peth o’r gwahaniaeth.

Mewn achos arall, mae tir yn Nhrefynwy wedi codi’n sylweddol yn ei werth ar ôl cael hawl cynllunio – fe fydd y Llywodraeth yn cael cyfran o’r elw hwnnw hefyd.

Y bwriad

Bwriad Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio oedd gwerthu asedau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau grantiau o Ewrop a defnyddio’r arian i adfywio’r diwydiant adeiladu a rhoi cymorth i fusnesau.

Fe gafodd y Gronfa ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2009 ond fe gafodd ei gwaith ei atal yn 2013 ar ôl i’r cwynion ddod i’r wyneb.

Dyna pryd y cafodd yr Archwilydd ei alw i gynnal ymchwiliad ac fe gyfeiriodd yntau’r mater at Heddlu De Cymru a’r Swyddfa Twyll Difrifol.

Fe ddywedodd y Swyddfa Twyll Difrifol  ddoe nad oedd y mater yn berthnasol iddyn nhw ond eu bod yn cadw cysylltiad gyda’r heddlu lleol.

Y Ceidwadwyr yn galw am ddisgyblu

“Mae’r adroddiad yma’n codi pryderon am ddiffyg gofal y Gweinidogion,” meddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew R T. Davies. “Mae hyn yn hollol warthus, ac mae angen gweithredu.”

Fe alwodd ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i ystyried y methiannau o ddifrif gan roi ystyriaeth ddwys i ddyfodol gwleidyddol y Gweinidogion oedd yn rhan o werthu’r tir yma.

“Nid yn unig y mae miliynau o bunnoedd wedi’u colli o’r pwrs cyhoeddus, ond mae’n amlwg nad oedd y Gweinidogion wedi rhoi fawr ddim ystyriaeth nac arolygaeth o’r gronfa.”

Ateb y Llywodraeth

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, roedd sefydlu’r gronfa yn “syniad arloesol i sicrhau adfywiad yn ystod un o’r cyfnodau economaidd gwannaf mewn hanes”.

Roedden nhw’n dweud bod gwerth potensial y tir yn ansicr ar y pryd, oherwydd yr argyfwng economaidd ond, petai prawf bod ei werth yn uwch na’r pris, y bydden nhw’n cymryd camre cyfreithiol i hawlio arian.

“Rydym yn derbyn canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru,” meddai’r Llywodraeth mewn datganiad.

“Tra nad oedd trefniadau addas wedi’u creu yn 2010 i fod yn atebol a galluogi Gweinidogion i oruchwylio’r gronfa, roedd gweithredoedd diweddarach gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yn addas.”

Roedd yr arian a ddaeth o Ewrop wedi ei dynnu o’r Gronfa, medden nhw, a’i ailddefnyddio i gefnogi prosiectau.