Y tŷ crwn yn Sir Benfro
Mae cwpl o Sir Benfro wedi ennill eu hapêl yn erbyn gorchymyn  i ddymchwel eu tŷ crwn.

Mae Megan Williams a Charlie Hague wedi treulio mwy na thair blynedd yn apelio yn erbyn gorchymyn Cyngor Sir Penfro i ddymchwel eu cartref – oherwydd iddo gael ei godi heb ganiatâd cynllunio.

Ond fe glywodd y cwpl heddiw bod yr arolygwr cynllunio Kay Sheffield wedi caniatáu eu hapêl a bod y tŷ wedi cael caniatâd cynllunio o’r diwedd.

Roedd ymgyrch y cwpl 27 oed wedi denu cefnogaeth gan fwy na 100,000 o bobl o bedwar ban byd.

Dyma oedd cyfle olaf y cwpl i ddangos eu bod nhw wedi bodloni canllawiau cynllunio Polisi Datblygu Un Blaned y Llywodraeth a gynlluniwyd i annog datblygu cynaliadwy.

Fe adeiladodd Megan Williams a Charlie Hague eu tŷ crwn gan ddefnyddio deunyddiau lleol yng ngardd ei rhieni hi yng Nglandŵr, Sir Benfro.

Mae gan yr adeilad unigryw do gwellt yn ogystal â grisiau tro y tu mewn sydd wedi eu cerfio’n gelfydd allan o bren.