Jeremy Prescott, gyda'i gi Charlie
Mae crwner wedi clywed sut y bu farw dau ddyn ar ôl cael eu taro gan fellten mewn dau ddigwyddiad ar wahân tra’n cerdded ym Mannau Brycheiniog.

Clywodd Llys y Crwner yn Aberdâr bod Jeremy Prescott a Robin Frederick Meakings wedi cael eu taro gan fellten ar 5 Gorffennaf.

Cafodd  Jeremy Prescott, 51, ei daro wrth iddo oruchwylio siecbwynt ar fynydd Corn Du fel rhan o weithgaredd Gwobr Dug Caeredin.

Roedd Robin Meakings, 59, wedi bod yn cerdded ar fynydd Cribyn gyda’i ffrindiau pan gafodd ei ladd yn syth ar ôl cael ei daro gan fellten.

Dywedodd crwner Powys Andrew Barkley eu bod wedi marw ar ôl cael eu trydanu gan fellt.

Dywedodd mynyddwyr profiadol mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddelio gydag unrhyw un oedd wedi dioddef ar ôl cael eu taro gan fellten yn y Bannau, sy’n lleoliad ar gyfer hyfforddi’r SAS.

Yn dilyn y drasiedi, dywedodd teulu Jeremy Prescott o Telford ei fod “wedi marw yn gwneud rhywbeth roedd yn ei garu.”

Cafodd dau o bobl eraill eu taro gan fellten ar yr un diwrnod ond roedden nhw wedi goroesi.

Fe fydd cwestau llawn yn cael eu cynnal ar 3 Medi.