Mae Heddlu’r De, fu’n ymchwilio i ddiflaniad dyn o Fanceinion sydd wedi bod ar goll ers mis Mehefin, wedi dod o hyd i gorff mewn cerbyd yn Aberdâr.

Mae Heddlu Manceinion, sydd wedi bod yn arwain yr ymchwiliad i ddiflaniad Kenneth Davies, wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Credir bod Kenneth Davies wedi teithio o Fanceinion i Aberdâr ym mis Mehefin.

Cafwyd hyd i’r corff mewn car yn ardal Gadlys y dref.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.