Mae carchardai yn eu cyflwr gwaethaf ers 10 mlynedd gyda nifer yr achosion o drais ar gynnydd, fe rybuddiodd y prif arolygydd carchardai.

Yn ei  adroddiad blynyddol beirniadol, dywedodd Nick Hardwick bod diogelwch wedi gwaethygu mewn carchardai tra bod toriadau staff a gorboblogi yn cael effaith sylweddol ar garchardai.

Ychwanegodd bod cyffuriau cyfreithlon, neu “legal highs”, yn gyfrifol am gynnydd mewn achosion o drais a dyledion ymhlith carcharorion.

Tra bod mwy o ddynion a merched yn marw mewn carchardai, mae mwy o garcharorion gwrywaidd yn niweidio eu hunain ac mae ymosodiadau ar staff carchardai wedi cynyddu 28% ers 2010.

Fe rybuddiodd Nick Hardwick bod yr argyfwng presennol mewn carchardai yn anghynaladwy ac ni all y Llywodraeth ganiatáu i bethau barhau fel y maen nhw.