Craig Roberts, Edward Maher, a James Dunsby
Mewn cwest i farwolaeth tri milwr wrth gefn, fu farw wrth gymryd rhan mewn ymarferiad yr SAS ym Mannau Brycheiniog, dywedodd y crwner heddiw fod esgeulustod wedi cyfrannu at eu marwolaethau.

Yn y gwrandawiad yn Solihull heddiw, dywedodd Uwch Grwner Birmingham, Louise Hunt, y byddai pob un o’r tri milwr wedi goroesi pe bai rheoliadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar salwch gwres wedi cael eu dilyn.

Wrth gofnodi rheithfarn naratif yn y cwest i farwolaethau’r is-gorpral Craig Roberts, yr is-gorpral Edward Maher, a’r Corporal James Dunsby, dywedodd Louise Hunt bod oedi cyn rhoi triniaeth feddygol i’r tri wedi cyfrannu at eu marwolaeth.

Clywodd y cwest fod yr is-gorpral Edward Maher, o Gaer-wynt, a’r is-gorpral Craig Roberts, o Fae Penrhyn yng ngogledd Cymru, wedi marw ar fynydd Pen-y-Fan yn ystod yr ymarferiad ar ôl gorboethi ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn ym mis Gorffennaf 2013.

Bu farw’r Corporal James Dunsby, o Trowbridge, yn Ysbyty Brenhines Elizabeth yn Birmingham wedi i’w organau fethu fwy na phythefnos ar ôl yr ymarferiad.

‘Diffyg ymarferiadau’

Yn ei sylwadau cyffredinol am y paratoadau a wnaed cyn ac yn ystod y daith gerdded 16 milltir, dywedodd Louise Hunt fod cwblhau asesiad risg fwy na phythefnos cyn yr ymarferiad yn annigonol.

Wrth i berthnasau’r tri milwr wrando ar y dyfarniad yn Solihull heddiw, ychwanegodd Louise Hunt nad oedd hi’n meddwl fod y 37 o filwyr wrth gefn a gymerodd ran yn yr ymarferiad wedi eu paratoi’n ddigonol ar gyfer y daith gerdded o’i gymharu â milwyr cyffredinol.

Wrth ddyfarnu bod diffyg ymarferiadau blaenorol yn ystod yr wythnos cyn yr ymarfer wedi cyfrannu at farwolaethau’r tri, pwysleisiodd bod y tri milwr fu farw wedi bod yn “ffit iawn” ond bod hynny’n wahanol o’i gymharu â chael eu paratoi’n ddigonol ar gyfer ymarferiad o’r fath.

Asesiad risg

Wrth gyfeirio at dystiolaeth arbenigwr ar salwch gwres, dywedodd y crwner y byddai’r tri wedi goroesi petai nhw wedi cael eu stopio yn y siecbwynt olaf.

Roedd yr Athro George Havenith wedi dweud yn ei dystiolaeth y byddai’r tri dyn wedi gwella petai nhw wedi cael “triniaeth sylfaenol, fel oeri, dwr a gorffwys.”

Dywedodd y crwner ei bod wedi dod i’r casgliad nad oedd y rhai oedd mewn rheolaeth yn “ymwybodol o sefyllfa’r tywydd a’r effaith posib ar yr ymarferiad. Fe wnaethon nhw fethu a chynnal asesiad risg digonol o ganlyniad.”

Ymddiheuriad

Ar ôl y cwest dywedodd y Brigadydd John Donnelly ar ran y fyddin: “Hoffwn ymddiheuro am farwolaethau James Dunsby, Craig Roberts a Edward Maher, tri milwr arbennig, a hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad dwys i’w teuluoedd a’u ffrindiau sydd wedi dangos urddas arbennig yn ystod cyfnod anodd iawn.

“Rydym wir yn ymddiheuro am yr holl gamgymeriadau gafodd eu hamlygu gan y crwner.”

Mae newidiadau i’r gorymdeithiau eisoes wedi cael eu gwneud meddai a bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y fyddin, unwaith i’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch gwblhau eu hymchwiliad.

Ychwanegodd: “Mae’n angenrheidiol ein bod yn hyfforddi ein milwyr i’r safonau gorau posib i gwrdd â’r heriau diogelwch sy’n ein hwynebu yn y wlad hon a thramor ac mae gwneud hynny’n golygu bod unigolion yn gorfod gwthio eu hunain a chymryd rhywfaint o risg.

“Serch hynny, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n ofalus. Yn yr achos hwn, ni wnaethon ni hynny.”

Ymchwiliad

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch mewn datganiad ar y cyd: “Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y rheithfarn naratif a roddwyd gan y crwner Louise Hunt.

“Cynhaliodd Heddlu Dyfed-Powys a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ymchwiliad ar y cyd i’r digwyddiad hwn ac mae ymchwiliad y Gweithgor i’r amgylchiadau wnaeth arwain at farwolaethau’r milwyr yn parhau.”