Hela gyda chwn
Mae pleidlais seneddol i lacio’r rheolau ar hela llwynogod yng Nghymru a Lloegr wedi cael ei ohirio ar ôl penderfyniad gan yr SNP i gymryd rhan yn y bleidlais a fyddai bron yn sicr wedi gweld y Llywodraeth yn colli.

Roedd Nicola Sturgeon wedi rhybuddio David Cameron fod yn rhaid iddo barchu llais ASau’r Alban yn San Steffan wedi i’r SNP fygwth pleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i lacio’r gwaharddiad ar hela llwynogod yng Nghymru a Lloegr.

Roedd Prif Weinidog yr Alban wedi dweud y byddai ASau’r SNP yn mynd yn erbyn eu harfer o beidio â phleidleisio ar faterion sy’n effeithio Lloegr, neu Gymru a Lloegr, yn unig i wrthwynebu’r newid arfaethedig i’r gyfraith hela mewn pleidlais gyffredin.

Ac mae hi hefyd wedi rhybuddio y byddai ei phlaid yn barod i bleidleisio ar faterion eraill sydd ddim yn effeithio’r Alban yn uniongyrchol yn y misoedd i ddod.

Roedd penderfyniad yr SNP i bleidleisio yn erbyn y newid – a fyddai mewn gwirionedd yn dod â’r gyfraith ar hela yng Nghymru a Lloegr yn unol â’r gyfraith yr Alban – yn golygu fod y Llywodraeth bron yn sicr o gael ei threchu.