Mae adolygiad annibynnol damniol wedi cael ei gyhoeddi heddiw i achosion honedig o gam-drin yr henoed mewn cartrefi gofal yng Ngwent.

Meddai’r adroddiad y dylai un perchennog cartref gofal fod wedi cael ei erlyn a bod y rhai oedd yn darparu gofal wedi bod yn fyddar i anghenion pobl oedrannus.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod “camgymeriadau a phenderfyniadau gwael” yn nodweddu’r sefydliadau sy’n gysylltiedig ag Ymchwiliad Jasmine.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Ymchwiliad Jasmine gan yr heddlu – sef yr ymchwiliad mwyaf yn y DU i honiadau o esgeulustod mewn chwech o gartrefi gofal ar gost amcangyfrif o £15 miliwn.

Pryder

Roedd yr ymchwiliad yn ymwneud â 63 o farwolaethau a oedd yn achos pryder mewn cartrefi gofal a chartrefi nyrsio ar gyfer pobl hŷn yn ne-ddwyrain Cymru.

Ym mis Mawrth 2013, cafodd yr achosion yn erbyn perchnogion a rheolwr y cartrefi eu gohirio, oherwydd cyflwr iechyd un o’r diffynyddion yn dilyn ymosodiad arno. Dydyn nhw dal heb fynd o flaen eu gwell.

Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn sefydlu Adolygiad o Ymgyrch Jasmine a’r digwyddiadau oedd yn gysylltiedig er mwyn dysgu ar gyfer y dyfodol.

Comisiynwyd Dr Margaret Flynn, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Swydd Gaerhirfryn ac awdur Adolygiad Achos Difrifol yn Ysbyty Winterbourne View, i wneud yr adolygiad.

Roedd Dr Margaret Flynn yn feirniadol o’r penderfyniad i beidio ag erlyn Dr Prana Das oherwydd ei fod yn parhau i fod yn gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd ei gwmni am flwyddyn a hanner yn dilyn yr ymosodiad arno.

Ychwanegodd ei bod hi eisiau i Wasanaeth Erlyn y Goron edrych eto ar yr achos.

Dywedodd hefyd bod cysondeb rhwng gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gofal sy’n canolbwyntio ar berthynas a gofal lliniarol yn awgrymu bod angen “cyfeiriad newydd” wrth gynllunio gofal ar gyfer pobl hŷn fregus yng Nghymru.

A rhybuddiodd nad yw’r ffaith bod meddygon teulu sy’n berchen ar gartrefi preswyl a nyrsio yn sicrhau y bydd y cleifion a phreswylwyr yn derbyn gofal iechyd “amserol a sylwgar”.

‘Camau gweithredu’

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Er bod yr adroddiad yn cydnabod y datblygiadau dros y degawd diwethaf, mae hefyd yn amlinellu nifer o gamau gweithredu i’w hystyried gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

“Bydda i’n ysgrifennu at bob un o’r sefydliadau hynny i ofyn am ymateb. A bydda i’n cyhoeddi’r ymatebion hynny ynghyd â’r adroddiad.  Byddwn yn gwneud datganiad arall yn yr hydref.”

‘Awyddus i ddysgu’

Dywedodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru mewn datganiad eu bod yn “croesawu’r” adroddiad a’u bod yn “awyddus i ddysgu o’i ganfyddiadau”.

Ychwanegodd y datganiad fod yr adroddiad yn disgrifio “gofal gwael iawn ac annerbyniol i bobl hŷn sy’n agored i niwed ac mae’n nodi pobl sydd wedi dioddef esgeulustod difrifol iawn.”

Dywedodd prif arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Imelda Richardson: “Mae adroddiad Dr Flynn yn gam pwysig i deuluoedd a pherthnasau’r rhai hynny a ddioddefodd niwed, ac sydd wedi dangos cryfder a dewrder difesur mewn sefyllfa na ddylai unrhyw deulu orfod ei wynebu.  Mae’r adroddiad yn disgrifio’r effaith niweidiol a gafodd gofal cwbl annerbyniol ar fywydau pobl.

“Rydym yn fwy ymwybodol o wasanaethau sy’n peri pryder nag erioed o’r blaen, ond rydym yn dibynnu ar y cyhoedd, staff gofal a pherthnasau i roi gwybod iddynt os byddant yn gweld gofal gwael neu os oes ganddynt bryderon.

“Nawr bod yr adroddiad wedi cael ei gyhoeddi, rydym yn awyddus i archwilio’n ofalus a myfyrio ar yr argymhellion.  Byddwn yn gweithio gyda’n Bwrdd Cynghori Cenedlaethol i fynd trwy’r adroddiad a sicrhau bod ein gwaith yn parhau i wasanaethu pobl sydd angen ac sy’n defnyddio gwasanaethau gofal.  Mae AGGCC yn parhau i roi’r bobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau wrth wraidd ein gwaith.”

‘Rhaid gweithredu ar frys’

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Wasanaethau Cymdeithasol, Altaf Hussain AC, fod yn rhaid gweithredu argymhellion yr adroddiad ar frys.

Meddai Altaf Hussain AC: “Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at gyfres o gamgymeriadau y mae’n rhaid cael sylw ar frys.

“Mae pob argymhelliad yn gofyn am gamau cyflym gan nifer o sefydliadau ar draws Cymru. Mae marciau cwestiwn clir, dros lywodraethu yn benodol, ac mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael a’r materion yn syth.

“Ni ddylai’r digwyddiadau erchyll hyn fyth ddigwydd eto ac mae teuluoedd y rhai gafodd eu heffeithio yn haeddu gweld diwygiadau clir o fewn y sector cartrefi nyrsio a gofal.”

Trefn

Dywedodd AC Plaid Cymru Jocelyn Davies ei bod hi am annog y Llywodraeth i achub ar y cyfle hwn i roi trefn ar systemau gofal.

Meddai Jocelyn Davies AC: “Mae Adroddiad Flynn wedi amlinellu cam-drin ac esgeuluso brawychus o bobl hyn a ddigwyddodd dros nifer o flynyddoedd.

“Oni bai ein bod yn ailfeddwl gwerth y system ofal, mae risg y bydd sgandalau tebyg yn digwydd eto.”

‘Rhaid newid y system gyfreithiol’

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn  bod yn rhaid newid y system gyfreithiol er mwyn ei gwneud yn haws i erlyn y rheini sy’n cam-drin neu’n esgeuluso pobl hŷn:

Meddai: “Yn ogystal â rhoi llais angenrheidiol i deuluoedd, mae’r adroddiad, sy’n hynod anodd ei ddarllen, yn dangos yn glir y methiannau dychrynllyd o ran gofal, yn ogystal â methiannau cyrff cyhoeddus allweddol, a gafodd effaith mor ofnadwy ar gynifer o fywydau.

“Mae’r adroddiad yn dangos yn glir sut mae’r system cyfiawnder troseddol wedi gwneud tro gwael â’r bobl hŷn a’u teuluoedd a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn.  Rhaid newid y system gyfreithiol er mwyn ei gwneud yn haws erlyn y rheini sy’n cam-drin neu’n esgeuluso pobl hŷn, neu’r rheini sy’n caniatáu i hynny ddigwydd.

“Rwy’n falch fod Dr Flynn wedi argymell bod y rheini sy’n berchen ar wasanaethau a’r rheini sy’n elwa ar y gwasanaethau a ddarperir yn cael eu dal yn atebol.  Rwyf wedi nodi’n glir nad oes modd i’r ddeddfwriaeth bresennol roi sylw i hyn, felly mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n cynnwys darpariaethau ar gyfer prawf ‘ffit i fod yn berchen’ yn y Bil Rheoleiddio ac Arolygu sydd ar y gweill.”