Harriet Harman
Mae un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi amddiffyn yr arweinydd dros dro, Harriet Harman, ar ôl iddi gytuno’n gyhoeddus  gyda’r Torïaid dros doriadau lles.

Mae Harriet Harman yn wynebu cyfarfod stormus pan fydd yn annerch ASau’r blaid heno ar ôl iddi ddweud dros y penwythnos bod angen i’r blaid “ail-gysylltu” gyda’r cyhoedd ar yr economi ac ar fudd-daliadau.

Wrth gefnogi ei sylwadau heddiw dywedodd Liz Kendall AS ar raglen deledu’r BBC, Victoria Derbyshire, ei bod yn hanfodol i’r blaid ddangos ei bod wedi newid, er mwyn adennill ffydd y pleidleiswyr.

Roedd gweddill yr ymgeiswyr, Andy Burnham, Yvette Cooper a Jeremy Corbyn, wedi condemnio ei sylwadau.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd wedi dweud ei fod yn anghytuno gyda sylwadau Harriet Harman gan ychwanegu mai’r bobl dlotaf mewn cymdeithas fydd yn dioddef yn sgil toriadau’r Canghellor George Osborne i gredydau treth.

Angen ail-gysylltu

Dywedodd Liz Kendall heddiw  nad oedd y pleidleiswyr yn “ymddiried yn y blaid” ar yr economi nac ar ddiwygio lles.

Meddai: “Os ydym yn parhau i wneud yr un dadleuon yr ydym wedi ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf, byddwn yn cael yr un canlyniad. Rhaid i ni gyflwyno gweledigaeth wahanol a  chredadwy ac roedd Harriet yn llygad ei lle i ddweud hyn.”

Anghytuno

Ond dywedodd Andy Burnham bod yn rhaid “gwrthwynebu’r newidiadau. Dyna sut mae Llafur yn gwneud ei hun yn berthnasol.

“Nid ydych yn caniatáu newid sydd am gymryd arian oddi wrth bobl sy’n gweithio ac sy’n ceisio gwneud y peth iawn.”

Dywedodd Yvette Cooper bod credydau treth yn “rhan bwysig o wneud i waith dalu” i lawer o deuluoedd.

“Rwy’n meddwl y gallwn ni fod yn gredadwy wrth wrthwynebu’r pethau mae’r Torïaid yn ei wneud sydd yn mynd i effeithio  pobl sy’n gweithio.”

Ychwanegodd Jeremy Corbyn bod Cyllideb George Osborne bod yn “greulon.”

“Mae’r syniad o gael lefel is o fudd-dal ar gyfer y trydydd plentyn a’r rhai dilynol yn ymddangos  yn gwbl groes i egwyddorion hawliau pob plentyn yn gyfartal ac yn deg i mi.”

Pwysleisiodd llefarydd ar ran Harriet Harman y bydd ASau Llafur yn pleidleisio yn erbyn pecyn y Gyllideb yn Nhŷ’r Cyffredin yfory.