Mae cyn Aelod Senedd Ewropeaidd  UKIP wedi cael ei garcharu am bum mlynedd ar ôl iddo hawlio bron i £500,000 o gostau gan Senedd Ewrop drwy dwyll.

Roedd Ashley Mote, 79, wedi hawlio costau ffug am ei lwfans seneddol. Roedd y costau i fod  ar gyfer gwaith roedd sefydliadau wedi ei wneud ar ei ran.

Clywodd Llys y Goron yn Southwark bod Mote, o Binsted yn Hampshire wedi defnyddio’r arian i frwydro achosion llys yn y DU wedi iddo gael ei erlyn am dwyll budd-daliadau blaenorol.

Cafwyd Mote yn euog o dderbyn €355,000 ewro a £184,000 o lwfansau nad oedd ganddo hawl iddyn nhw.  Cafodd y troseddau eu cyflawni rhwng mis Tachwedd 2004 a mis Gorffennaf 2010.

‘Celwydd’

Dywedodd Mr Ustus Stuart Smith bod Mote wedi “dweud celwydd” dro ar ôl tro yn ystod yr achos.

Meddai Mrs Ustus Smith: “Mae eich trachwant ac anonestrwydd yn cyfateb yn unig i’ch rhagrith.”

“Rydych yn gwybod yn iawn beth yw’r rheolau ar gyfer hawlio treuliau.

“Fe wnaethoch gam-drin eich safle fel cynrychiolydd etholedig. Rydych wedi cam-drin ymddiriedaeth y mae’r Senedd Ewrop wedi ei roi i chi, gan wneud datganiadau ffug gan wybod bod y sefydliadau Ewrop yn  ymddiried  yn eu ASEau i fod yn ddibynadwy, yn onest ac yn gyson.

“Mae cysondeb eich anonestrwydd yn syfrdanol.”

Cafodd dedfryd Mote ei ostwng i 5 mlynedd oherwydd ei oedran.

Cafodd Mote ei ethol yn ASE Ukip yn ne ddwyrain Lloegr yn 2004 ond yn fuan wedyn cafodd ei ddiarddel gan y blaid am ei fod yn cael ei erlyn am dwyll budd-daliadau gwerth £60,000.