Arweinydd yr Wrthblaid dros dro, Harriet Harman (llun: PA)
Fe fydd y Blaid Lafur yn derbyn rhai o doriadau’r Canghellor i’r wladwriaeth les, yn ôl ei harweinydd dros dro, Harriet Harman.

Dywedodd fod yn rhaid i’w phlaid gydnabod iddi golli’r etholiad oherwydd nad oedd gan etholwyr ffydd ynddi “ar yr economi ac ar fudd-daliadau”.

Ni fydd Llafur yn gwrthwynebu’r uchafswm cyffredinol o fudd-daliadau i un teulu, na phenderfyniad George Osborne i gyfyngu credydau treth a chredydau cynhwysol i ddau o blant.

“Mae’n rhaid inni wrando ar yr hyn a ddywedodd pobl ledled y wlad wrthym a chydnabod na chawson ni ein hethol,” meddai.

“Dyma’r ail waith inni beidio â chael ein hethol, ac mae ar bobl eisiau inni wrando ar eu pryderon ac mae’n rhaid i ni ddeall pam mai’r Torïaid sydd mewn llywodraeth ac nid y ni.”

Anghytuno

Mae’n amlwg, fodd bynnag, nad oes cytundeb unfrydol â safbwynt Harriet Harman o fewn rhengoedd Llafur.

Wrth fynegi ei amheuon, dywedodd un o’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth, Jeremy Corbyn:

“Os mai’r hyn sy’n cael ei gynnig yw y bydd gofyn i Aelodau Seneddol Llafur bleidleisio dros gynlluniau’r Llywodraeth i dorri budd-daliadau i deuluoedd, dw i ddim yn fodlon pleidleisio dros bolisïau a fydd yn gwthio mwy o blant i dlodi.

“Mae teuluoedd yn dioddef digon. Ddylen ni ddim chwarae gemau gwleidyddol y Llywodraeth pan fo lles plant yn y fantol.”