Mae dynes ifanc a fu’n gorwedd mewn car am dri diwrnod ar ôl damwain yn yr Alban ddydd Sul diwethaf wedi marw.

Roedd Lamara Bell, 25 oed, wedi cael ei hanafu’n ddifrifol mewn damwain ar draffordd yr M9 gerllaw Stirling, ac roedd ei chariad John Yull, 28 oed, eisoes wedi marw pan gafodd yr heddlu hyd iddyn nhw ddydd Mercher.

Aed â hi i ysbyty yn Glasgow, lle bu farw heddiw.

Roedd Heddlu’r Alban eisoes wedi cael eu beirniadu’n hallt am gymryd 72 awr i ymateb i wybodaeth a gawson nhw am y ddamwain – ac mae’r ail farwolaeth yn eu rhoi mewn mwy o helynt.

Fe ddaeth i’r amlwg fod aelod o’r cyhoedd wedi ffonio’r heddlu fore Sul diwethaf yn dweud bod car wedi disgyn i lawr dibyn o’r draffordd, ond na wnaeth yr heddlu ddim byd nes iddyn nhw gael galwad gan rywun arall ddydd Mercher.

Mae prif gwnstabl Heddlu’r Alban, Syr Stephen House, wedi ymddiheuro i deuluoedd y ddau, ac mae comisiynydd archwilio’r heddlu yn yr Alban yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, o dan gyfarwyddyd Swyddfa’r Goron.