Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi ysgrifennu at lywodraeth Prydain yn mynegi pryderon ynghylch y cynlluniau i gyfyngu pleidleisiau ar ddeddfau Lloegr i Aelodau Seneddol o Loegr.

Mae’n galw ar San Steffan i gyd-drafod y cynigion yn fanwl gyda llywodraeth yr Alban, gan ddweud bod y mater yn amlwg yn ymwneud â’r Alban.

Yn ei llythyr at Ysgrifennydd yr Alban, David Mundell, mae Nicola Sturgeon yn galw am fwy o eglurder o ran sut byddai mesurau’n cael eu hasesu os ydyn nhw’n berthnasol i’r Alban neu beidio.

Mae hi hefyd yn galw am gyfarfod gydag ef a Chris Grayling, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, i drafod y cynigion.

Mewn dadl frys yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ASau o sawl gwrthblaid fynegi gwrthwynebiad i’r cynllun i gyfyngu rhai pleidleisiau i ASau o Loegr yn unig.

Yn dilyn hyn, mae Llywodraeth Prydain wedi addo ail-ddrafftio’r cynigion a gohirio pleidlais arnyn nhw tan fis Medi o leiaf.

Mewn ymateb i lythyr Nicola Sturgeon, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain ei fod yn “gyfraniad adeiladol” i’r drafodaeth.