Plismyn ar y traeth yn Sousse ar ôl yr ymosodiad ar 26 Mehefin (llun: PA)
Mae prif weinidog Tunisia wedi mynegi ei siom fod llywodraeth Prydain yn cynghori ei dinasyddion i adael y wlad.

Daw ei sylwadau wrth i gannoedd yn rhagor o ymwelwyr o Brydain hedfan yn ôl adref heddiw.

“Rydym yn gresynu at y penderfyniad i ofyn i’r holl ddinasyddion adael,” meddai Habib Essid.

“Mae angen cefnogaeth ar Tunisia. Mae angen help yn erbyn yr hyn mae’r eithafwyr treisgar yn ei wneud. Eu nod nhw yw na fydd pobl o dramor yn teimlo’n ddiogel yn Tunisia.”

Dywedodd fod y llywodraeth yn gwneud popeth a allen nhw i amddiffyn dinasyddion Prydain yn Tunisia.

Mae stad o argyfwng wedi bod yn wlad ers yr ymosodiad ar draeth Sousse ar 26 Mehefin pryd y cafodd 38 o bobl eu saethu’n farw, a chafodd pump o wrthryfelwyr eu lladd gan luoedd y llywodraeth mewn brwydr ddoe.

Mae’r ysgrifennydd tramor Prydain, Philip Hammond, wedi amddiffyn y penderfyniad i gynghori Prydeinwyr i adael. Mae’n mynnu na wnaed y penderfyniad heb ystyriaeth ddwys, a dywed ei fod yn gobeithio y bydd y cyngor i ymwelwyr yn cael ei liniaru cyn bo hir.

Mae penderfyniad y llywodraeth wedi cael ei feirniadu gan amryw o ymwelwyr o Brydain hefyd, sy’n mynnu eu bod yn teimlo’n ddiogel yn Tunisia.