Y Prif Weinidog David Cameron (llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn addo deddf newydd i rwystro elusennau rhag dulliau ymosodol o godi arian a manteisio ar haelioni pobl ddiniwed.

Fe fydd y ddeddf yn gorfodi elusennau a chodwyr arian i gael cytundeb ysgrifenedig yn dangos sut y bydd pobl fregus yn cael eu diogelu. Fe fydd hefyd yn gorfodi rhai o elusennau mwyaf Prydain i ddatgelu eu dulliau codi arian er mwyn dangos eu bod yn ymddwyn yn briodol.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar fod hen wraig o Fryste a fu farw’n 92 oed ym mis Mai wedi derbyn 267 o lythyrau mewn mis gan elusennau’n gofyn am arian.

Meddai David Cameron:

“Mae ein helusennau’n gwneud gwaith hanfodol, gan ddod â chymunedau at ei gilydd a rhoi cymorth i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

“Ond mae ymddygiad rhai o’r codwyr arian sy’n cael eu defnyddio ganddyn nhw yn gwbl annerbyniol ac yn difrodi enw da’r sector yn ei gyfanrwydd, a dyna pam yr ydym yn cyflwyno deddf newydd i sicrhau bod elusennau’n codi arian yn y ffordd iawn.”

Fe fydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno fel diwygiadau i’r Bil Elusennau sy’n mynd trwy’r senedd ar hyn o bryd.