Mynwent Aberfan
Mae tân wedi dinistrio capel a fu yn llygad y byd yn ystod trychineb Aberfan yn 1966.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Gapel Aberfan, a godwyd yn 1876, am 2.37 y bore yma, ac mae’r adeilad mewn perygl o ddymchwel. Fe fu’n rhaid i drigolion pedwar tŷ cyfagos adael eu cartrefi pan oedd y tân ar ei anterth.

Hwn oedd y capel a gafodd ei ddefnyddio fel marwdy dros dro ar gyfer cyrff rhai o’r 166 o blant ac oedolion a gafodd eu lladd pan lithrodd y domen lo ar ysgol gynradd a thai ar 21 Hydref, 1966.

Meddai Jennie Griffiths, pennaeth rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Mae eglwys deulawr mewn perygl o ddymchwel yn dilyn tân ar Ffordd Aberfan, Aberfan, am 2.37am.

“Fe wnaeth yr heddlu wagio pedwar eiddo pan oedd y tân ar ei anterth, ac mae criwiau tân yn dal yno. Fe fu criwiau o Ferthyr, Treharris, Abercynon, Aberbargoed, Pontypridd a’r Barri yn helpu ei ddiffodd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn  ymchwilio i achos y tân a’u bod yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555111 gan nodi cyfeirnod 1500249859.