Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford
Fe fydd brechlynnau newydd rhag llid yr ymennydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ddiwedd yr haf.

Fe fydd babanod yn cael tri dos o frechlyn rhag llid yr ymennydd B, pan fyddan nhw’n ddau, pedwar a 12 mis oed, fel rhan o’r rhaglen brechu plant.

Mae tua 1,200 o bobl – babanod a phlant yn bennaf – yn cael llid yr ymennydd B bob blwyddyn ym Mhrydain, ac mae un o bob 10 yn marw. Cafodd naw achos ei gofnodi yng Nghymru ym mhum mis cyntaf 2015.

Fe fydd brechlyn newydd ar gyfer llid yr ymennydd ACWY hefyd yn cymryd lle’r pigiad presennol ar gyfer llid yr ymennydd C, sy’n cael ei roi i bobl ifanc yn eu harddegau a’r rheini sy’n dechrau yn y brifysgol.

O’r mis nesaf ymlaen, bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i bob myfyriwr sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf yn yr hydref, a bydd rhaglen dal i fyny ar gyfer pawb rhwng 14 a 18 oed dros y ddwy flynedd nesaf.

‘Tawelwch meddwl’

Wrth gyhoeddi’r newidadau, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford:

“Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno rhaglen frechu genedlaethol ar gyfer MenB i fynd i’r afael ag effeithiau’r clefyd, a all fod yn dorcalonnus i blant a’u teuluoedd. Rwy’n siŵr y bydd cyflwyno’r brechlyn hwn fel rhan o raglen brechu plant yng Nghymru’n rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd.

“Fe fydd y brechlyn MenACWY yn amddiffyn pobl ifanc yn eu harddegau yn erbyn sawl ffurf ar y clefyd hwn, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn ar adeg mor bwysig yn eu bwydau.”