Mae bron i filiwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi i ffoi rhag teiffŵn enfawr sydd wedi taro arfordir China i’r de o Shanghai.

Gydag adroddiadau am wyntoedd o hyd at 100 milltir yr awr, dywed gwasanaeth tywydd China mai teiffŵn Chan-hom yw’r cryfaf i daro’r wlad ers i’r llywodraeth gomiwnyddol ddod i rym yn 1949.

Cafodd 28,764 o longau eu gorchymyn i ddychwelyd i’w porthladdoedd neithiwr, ac mae cannoedd o deithiau awyren a thros 100 o drenau wedi cael eu canslo.

Mae Chan-hom eisoes wedi gadael ei ôl ar wledydd eraill cyn iddo gyrraedd China. Cafodd 20 o bobl eu hanafu ar ynysoedd yn ne Japan, ac fe fu’n rhaid cau cyfnewidfa storc Taipei, prifddinas Taiwan, ddoe.