Bydd gweinidog cyllid Gwlad Groeg yn cyfarfod cynrychiolwyr gwledydd eraill yr Ewro y prynhawn yma yn y gobaith o sicrhau cytundeb i osgoi methdaliad y wlad.

Daw hyn ar ôl i senedd Gwlad Groeg gymeradwyo cynigion y llywodraeth neithiwr i leihau’r ddyled, cynigion sy’n cynnwys codiadau treth a thoriadau llym ar bensiynau ymysg pethau eraill.

Lai nag wythnos yn ôl, fe wnaeth etholwyr y wlad wrthod cynigion tebyg mewn refferendwm, ac mae parodrwydd y llywodraeth i’w derbyn yn arwydd o ddyfnder yr argyfwng.

Mae banciau’r wlad wedi bod ar gau ers pythefnos, a chyfyngiadau llym ar y symiau y caiff pobl eu codi o’r peiriannau arian.

Os bydd cytundeb heddiw, byddai Gwlad Groeg yn cael benthyciad tair blynedd gwerth 53.5 biliwn ewro, a dileu rhywfaint o’i dyled.

Ar y llaw arall, os na fydd cytundeb, mae’r wlad yn debygol o fynd yn fethdalwr ac o gael ei thaflu allan o barth yr Ewro.

Pe digwyddai hynny, gallai fod canlyniadau difrifol i’r wlad ac i’r marchnadoedd arian byd-eang.