George Osborne
Pylu mae’r gobeithion o ddatrys argyfwng ariannol Gwlad Groeg yn sgil y refferendwm ddoe, dywedodd George Osborne wrth ASau yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Bu’r Canghellor yn amlinellu’r cynlluniau sydd ar y gweill i ddiogelu Prydeinwyr yn y wlad a’r economi ehangach.

Dywedodd  George Osborne y byddai Prydeinwyr sy’n byw yng Ngwlad Groeg yn dal i dderbyn eu pensiynau yn ôl yr arfer, gan ychwanegu eu bod wedi cysylltu â 2,000 o unigolion.

Ond fe rybuddiodd y Canghellor bod y sefyllfa mewn perygl “o fynd o ddrwg i waeth”. Fe fydd Prydain yn cael ei heffeithio os yw’r argyfwng ariannol yng Ngwlad Groeg yn parhau ac os yw’n gwaethygu.

“Nid oes ffordd hawdd allan ohoni ond hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg rydym yn annog arweinwyr parth yr ewro a Gwlad Groeg i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy.

Dywedodd canghellor yr wrthblaid Chris Leslie mai dyma’r “prawf mwyaf i’r Undeb Ewropeaidd ers cenhedlaeth”.

Meddai George Osborne bod pobl Gwald Groeg wedi mynegi “barn bendant” drwy wrthod telerau benthyciad ariannol ychwanegol gan gredydwyr Ewrop.

“Rydym yn parchu penderfyniad pobl Gwlad Groeg ond mae yna ansicrwydd sylweddol am yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Mae’n rhaid i ni fod yn realistig – mae’r gobeithion o ddod i ddatrysiad boddhaol i’r argyfwng yn pylu.”

Ychwanegodd: “Os nad oes arwydd bod Gwlad Groeg a pharth yr ewro yn barod i drafod, yna fe allwn ni ddisgwyl i sefyllfa ariannol Gwlad Groeg ddirywio.”

‘Ymateb cymysg’

Mae Cymraes sy’n gweithio mewn gwesty ar Ynys Skiathos wedi dweud bod ’na ymateb cymysg yn dilyn y bleidlais Na yn y refferendwm ddoe.

Dywedodd Menna Lloyd, 34 oed, o Bontuchel ger Y Rhuthun: “Mae’r ymateb i’r canlyniadau yn gymysg iawn – mae’r rheiny wnaeth bleidleisio Na fel petai nhw’n falch o’r cyfle i gael rhoi eu barn mewn refferendwm.

“Roedd yna awyrgylch o iwfforia neithiwr yn Athen a llawer o ardaloedd eraill hefyd.

“Erbyn heddiw mae yna rywfaint o bryder a dealltwriaeth bod y 48 awr nesaf yn hanfodol.”

Twristiaeth

Ychwanegodd: “Rydw i wedi synnu a deud y gwir nad oes yna fwy o bryder gan bobl am fethu cael eu harian o’r twll yn wal.  Dwi’n amau bod hynny achos ein bod ni ar ynys dwristiaid a bod yna ddigon o bres yn cylchredeg.

“Dwi’n meddwl bod yna fwy o ofn bydd sefyllfa debyg i Cyprus yn digwydd, lle bydd y llywodraeth yn cymryd canran o bres o gyfrifon pawb.  Mae yna son, ond dim cadarnhad y bydd hyn yn digwydd, i bobl sydd efo cyfrifon efo mwy na 8,000 neu 12,000 ewro.

“ Wrth gwrs mae yna rywfaint o bryder am fy sefyllfa i yma, yn enwedig rŵan mae gen i deulu ifanc ac rydan  ni’n dibynnu ar dwristiaeth. Mae hi’n bwysig i bawb ddeall bod Gwlad Groeg dal ‘ar agor’.

“Neithiwr yn ein gwesty ni ac o gwmpas yr ynys i gyd, roedd yr ymateb gan Brydeinwyr, a llawer o dwristiaid eraill o gwmpas Ewrop yn  bositif dros ben efo lot o ganu a dawnsio.  Mae hi’n galonogol iawn i bobl Gwlad Groeg gael y cymorth yma.”