Mae’r BBC wedi cytuno i ariannu trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed o 2020/21, meddai’r Ysgrifennydd Diwylliant.
Dywedodd John Whittingdale y bydd y broses yn cael ei chyflwyno o 2018/19.
Ychwanegodd bod y Llywodraeth yn falch bod y BBC wedi cytuno “i gyfrannu tuag at wneud arbedion mewn gwariant fel y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus” tra’n lleihau “ei dibyniaeth ar y trethdalwyr.”
Cyhoeddodd hefyd y bydd deddfwriaeth newydd yn cael ei gyflwyno’r flwyddyn nesaf er mwyn moderneiddio ffi’r drwydded a fydd yn golygu codi tal i bobl sy’n dewis defnyddio iPlayer.
Mae disgwyl hefyd i ffi’r drwydded godi i £145.50, meddai John Whittingdale.
Dywedodd hefyd y byddai’r Llywodraeth yn “ystyried yn ofalus” yr achos dros beidio ei gwneud yn drosedd am fethu a thalu ffi’r drwydded.
Roedd John Whittingdale yn ymateb i gwestiwn brys yn y Senedd.