Senedd Gwlad Groeg
Mae’n bryd i’r Undeb Ewropeaidd “wrando ar bobl Gwlad Groeg” a chynnig cymorth ariannol iddyn nhw fydd ddim yn golygu cymaint o fesurau llymder, yn ôl ASE Plaid Cymru.

Dywedodd Jill Evans, sydd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd i’r blaid ym Mrwsel, bod etholwyr Gwlad Groeg wedi gwrthod rhagor o doriadau llym a’i bod hi’n bryd i Ewrop gydnabod hynny.

Daw’r alwad yn dilyn refferendwm ddoe pan bleidleisiodd 61% o Roegwyr i wrthod pecyn o gymorth ariannol oddi wrth yr UE.

Ond mae’r wlad yn parhau i wynebu ansicrwydd ariannol enbyd, ac yn gynharach heddiw fe ymddiswyddodd gweinidog cyllid Groeg Yanis Varoufakis mewn ymgais i geisio helpu’r trafodaethau.

‘Pawb eisiau iddyn nhw aros’

Mae’r Prif Weinidog David Cameron eisoes wedi galw ar yr Undeb Ewropeaidd a llywodraeth Gwlad Groeg i ddod o hyd i “ddatrysiad cynaliadwy” fydd yn cadw’r wlad ym mharth yr Ewro.

Heddiw fe fynnodd ASE Plaid Cymru bod angen cynhadledd ryngwladol er mwyn trafod sefyllfa Gwlad Groeg a gwledydd Ewropeaidd eraill sydd wedi wynebu trafferthion ariannol tebyg.

“Mae mwyafrif clir o bobl Gwlad Groeg wedi pleidleisio’n ddemocrataidd yn erbyn rhagor o fesurau llymder. Mae hyn yn dangos bod yr agenda llymder wedi methu,” meddai Jill Evans.

“Mae’r UE yn wynebu her enfawr. Mae’n rhaid iddi wrando ar bobl Gwlad Groeg a’u cefnogi nhw wrth iddyn nhw ailadeiladu’r economi.

“Mae’n rhaid i’r UE newid cyfeiriad a rhoi pobl nôl wrth wraidd ei pholisïau. Mae’n fater o ewyllys gwleidyddol. Mae modd ei gyflawni.

“Mae pobl Gwlad Groeg eisiau aros yn yr UE ac yn yr Ewro ac wedi dangos hynny mewn ffordd bositif. Mae’n rhaid i ni ddangos ffydd ynddyn nhw a chefnogi’r camau fyddai’n caniatáu i hyn ddigwydd. Rydyn ni i gyd eisiau gweld hyn yn digwydd.”