Mae mwy o bobl yn prynu ceir sydd wedi cael eu cynhyrchu ym Mhrydain wrth i ffigyrau ddangos cynnydd o 7% yng ngwerthiant ceir am chwe mis cynta’r flwyddyn o’i gymharu a’r un cyfnod y llynedd.
Cafodd 1,376, 889 o geir eu prynu gyda Chymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT) yn dweud bod tua un o bob chwech o brynwyr yn dewis cerbyd a gafodd ei gynhyrchu yn y DU.
Dyma’r lefel uchaf ers pum mlynedd, yn ol yr SMMT.
Modelau newydd gyda’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n denu’r prynwyr yn ogystal â chyfraddau llog isel a chyllid deniadol, meddai’r SMMT.
Mis Mehefin oedd y 40fed mis yn olynol i weld cynnydd yn nifer y ceir newydd gafodd eu gwerthu gyda’r SMMT yn adrodd bod yna alw cryf am gerbydau sy’n defnyddio tanwydd gwahanol, megis trydan.
Meddai Prif Weithredwr y SMMT, Mike Hawes: “Mae’n amser gwych i brynu car newydd ac mae’n galonogol gweld mwy o ddefnyddwyr yn dewis modelau o Brydain.
“Mae hyn yn bwysig ar gyfer yr economi ehangach, gyda 799,000 o bobl nawr yn cael eu cyflogi ar draws y sector moduron yn y DU, yn cynnwys manwerthu.
Yn ôl cymdeithas foduro’r RAC mae’r ffigyrau yn dangos bod cwmnïau yn barod i fuddsoddi yn eu busnesau.
Economi yn gwella
Meddai Simon Peevers o’r RAC: “Mae’r ffigurau yn cyfateb â’r hyn yr ydym yn ei weld o ran y galw am wasanaethau fflyd ar draws y sector busnes, o fusnesau bach a masnachwyr unigol i gorfforaethau mawr.
“Mae’r cynnydd mewn cofrestriadau fflyd, ynghyd â’r stori gadarnhaol yn y farchnad cerbydau masnachol ysgafn, yn awgrymu bod busnesau’r DU yn awr mewn gwell sefyllfa i fuddsoddi mewn cerbydau newydd, dibynadwy ac effeithlon.”
Y car mwyaf poblogaidd i’w brynu yw’r Ford Fiesta sydd wedi gwerthu 71,990, yna’r Vauxhall Corsa sydd wedi gwerthu 50,125.