Roald Dahl Llun: National Portrait Gallery
Fe fydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf ar hyd a lled Cymru i ddathlu 100 mlynedd ers geni’r awdur plant adnabyddus, Roald Dahl.

Bydd y dathliadau yn cynnwys perfformiad i gofio am fywyd a gwaith yr awdur gan National Theatre Wales a Chanolfan y Mileniwm ac arddangosfa arbennig o waith y cartwnydd Quentin Blake, a ddarluniodd y lluniau yn llyfrau Roald Dahl.

Mae llyfrau’r awdur, gafodd ei eni yng Nghaerdydd i deulu Norwyeg, wedi cael eu gwerthu ar draws y byd a’u cyfieithu i 58 iaith ac yn cynnwys ffefrynnau fel Fantastic Mr Fox, Charlie and the Chocolate Factory a The BFG.

Yn ôl amcangyfrifon mae’r awdur, a fu farw yn 1990, wedi gwerthu dros 200 miliwn o lyfrau ar draws y byd, gydag amryw o’i lyfrau bellach wedi cael eu haddasu i fod yn ffilmiau.

Digwyddiadau

Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod mis Medi 2016 yn cynnwys perfformiadau o gwmpas Caerdydd o ‘City of the Unexpected’, dathliad o fyd dychmygol yr awdur wedi’i redeg gan National Theatre Wales a Chanolfan y Mileniwm.

Mae disgwyl i Lenyddiaeth Cymru hefyd fod yn rhan o’r dathliadau gyda thaith ddwyieithog o gwmpas y wlad ar thema Roald Dahl i annog diddordeb mewn llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol a darllen.

Bydd arddangosfa newydd o waith Quentin Blake hefyd yn cael ei gynnal, gyda dathliadau Diwrnod y Llyfr  yn canolbwyntio ar straeon a chymeriadau Roald Dahl.

Cafodd logo arbennig Roald Dahl 100 hefyd ei ddadorchuddio heddiw gan Luke Kelly, ŵyr Roald Dahl, a Felicity Dahl, gweddw’r awdur.

Pasio’r baton

Ar ôl blwyddyn ble welodd Cymru ddathliadau ar raddfa debyg i nodi canmlwyddiant geni’r bardd Dylan Thomas, dywedodd Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru Ken Skates mai tro Roald Dahl fydd hi yn 2016 i gael ei gofio yn yr un modd.

“Fe ddylai dathliadau Roald Dahl 100 yn 2016 fod yn dipyn o antur – yng ngeiriau Willy Wonka, ‘Tremendous things are in store for you! Many wonderful surprises await you!’,” meddai Ken Skates.

“Bydd canmlwyddiant Roald Dahl yn cael ei ddathlu ar draws y byd mewn sawl gwahanol ffordd – o ryddhau addasiad ffilm Steven Spielberg o The BFG i’r dathliadau Diwrnod Roald Dahl ym mis Medi, bydd Cymru’n chwarae rhan ganolog yn y dathliadau byd-eang yma er mwyn adeiladu ar lwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol Gŵyl 100 Dylan Thomas.

“Fe allech chi hyd yn oed ddweud ein bod ni’n pasio’r baton ymlaen o Dylan i Dahl.

“Roedd Roald Dahl yn ddigon cyfarwydd ag antur drwy gydol ei fywyd chwedlonol ond, wrth ddathlu ei ganmlwyddiant, rydyn ni’n dathlu ei allu na welwyd mo’i debyg i fynd a phlant, ac oedolion, i fyd yr anturiaethau dim ond trwy bŵer gwych ei straeon.”