Rhaid i Wlad Groeg a gwledydd parth yr ewro ddod at ei gilydd i drafod “datrysiad cynaliadwy” i argyfwng ariannol y wlad, meddai Downing Street.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi bod yn cynnal trafodaethau brys gyda Llywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney ynghyd a gweinidogion yn cynnwys y Canghellor George Osborne.

Maen nhw wedi bod yn trafod yr effaith posib ar y DU yn sgil y bleidlais Na yn refferendwm Gwlad Groeg ddoe. Roedd 61% wedi pleidleisio yn erbyn telerau benthyciad ariannol gafodd eu cynnig gan gredydwyr Ewrop.

Mae gweinidog cyllid y wlad  Yanis Varoufakis wedi ymddiswyddo er mwyn ei gwneud yn haws i gynnal trafodaethau pellach a dod i gytundeb.

Yn y cyfamser mae Canghellor yr Almaen Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi cwrdd ym Mharis ar gyfer trafodaethau brys cyn i uwch gynhadledd gael ei gynnal ym Mrwsel yfory.

Yn dilyn y cyfarfod bore ma dywedodd llefarydd David Cameron: “Barn y Prif Weinidog yw bod hyn yn fater sydd angen ei drafod rhwng Gwlad Groeg a’i phartneriaid ym mharth yr ewro. Mae angen iddyn nhw weithio gyda’i gilydd er mwyn dod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy.”

Mae disgwyl i George Osborne roi diweddariad i Aelodau Seneddol am y sefyllfa yng Ngwlad Groeg yng Nhŷ’r Cyffredin tua 3.30 prynhawn ma.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cynghori pobl o Brydain sy’n bwriadu teithio i Wlad Groeg i fynd a digon o ewros mewn arian parod gyda nhw ar gyfer eu gwyliau, “ac arian ar gyfer achosion brys, neu sefyllfaoedd ac oedi annisgwyl.”