Mae deu ddyn wedi marw yn dilyn damwain awyren mewn maes awyr yn Swydd Rhydychen neithiwr.

Fe ddioddefodd y peilot, (yn ei 60au) a’i deithiwr (yn ei 50au) anafiadau angheuol wedi i’w hawyren ysgafn blymio i’r ddaear ym maes awyr Enstone.

Fe gafodd Heddlu Thames Valley eu galw wedi adroddiadau am ddamwain tua 7.20yh neithiwr. Mae teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod am y ddamwain, ond dydi enwau a manylion ddim eto wedi’u rhyddhau.

Mae’r corff sy’n arbenigo mewn ymchwilio i ddamweiniau awyr (yr AAIB) wedi dechrau ymchwilio i’r digwyddiad yn Enstone.