Mae anhrefn wedi’i greu o’r newydd ar wasanaethau Twnel y Sianel, wedi i 150 o fewnfudwyr geisio cael mynediad i’r terminal yn Calais er mwyn teithio i’r Deyrnas Unedigar gefn lorïau.

Mae cwmni Eurotunnel yn dweud y bydd oedi mawr, a bod rhai gwasanaethau wedi’u canslo’n llwyr, wedi i’r ffoaduriaid geisio cael mynediad i lefydd gwaharddedig ar ochr Ffrainc.

Mae hyn wedi achosi ciwiau hir ar draffordd yr M20 yng Nghaint, wrth i yrwyr lori geisio croesi’r Sianel.

Mae hefyd wedi achosi i bobol alw ar wleidyddion i fynd i’r afael go iawn â’r broblem.

Mae llefarydd ar ran cwmni Eurotunnel yn dweud mai dim ond lorïau sy’n cael eu heffeithio ar hyn o bryd, a bod teithwyr sy’n mynd â cheir a bysus dros y Sianel yn gallu gwneud hynny yn ôl yr amserlen lawn, arferol.