Val Doonican
Mae’r canwr a’r diddanwr Val Doonican wedi marw yn 88 oed.

Dywedodd ei deulu wrth y BBC ei fod wedi marw’n dawel nos Fercher.

Roedd y canwr o Iwerddon yn boblogaidd iawn yn y 1960au gyda’i sioe ar y BBC, y Val Doonican Show.

Mae’n gadael gwraig, Lynnette, a dwy ferch.