Mae’r BBC yn bwriadu cael gwared ar 1,000 o swyddi, gan gynnwys swyddi rheolwyr, fe gyhoeddwyd heddiw.

Daw’r toriadau oherwydd bwlch o £150 miliwn yn ei incwm o ffi’r drwydded.

Cafodd staff wybod am y toriadau mewn cyfarfod gyda’r  Cyfarwyddwr Cyffredinol Tony Hall yn Llundain heddiw.

Dywedodd bod llai o bobol yn gwylio teledu byw bellach, ac o ganlyniad does dim rhaid iddyn nhw dalu ffi’r drwydded.

Swyddi rheolwyr

Mae’n debyg y bydd nifer o reolwyr yn cael eu diswyddo tra bydd rhai adrannau’r BBC yn cael eu cwtogi.

Dywedod Tony Hall mai’r bwriad yw cael BBC “symlach a mwy effeithiol” a fydd yn ei helpu i gwrdd â’r heriau ariannol sy’n ei wynebu.

Mae’r BBC eisoes wedi cymryd camau i wneud arbedion o £1.5 biliwn y flwyddyn erbyn 2017.

Datganiad

Mewn datganiad dywedodd y BBC: “Y disgwyl  yw y bydd yr incwm o ffi’r drwydded  £150 miliwn yn llai yn 2016/17 nag oedd yn 2011. Mae hyn oherwydd bod mwy o bobl yn defnyddio iPlayer, ffonau symudol a’r we, ac mae nifer y cartrefi sy’n berchen teledu yn gostwng.

“Mae hyn yn dystiolaeth bellach bod angen moderneiddio ffi’r drwydded i gynnwys gwasanaethau digidol.”

‘Anochel y bydd effaith ar staff yng Nghymru’

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae hwn yn newyddion anodd – a dwi ddim am esgus fod yna unrhyw atebion hawdd.

“Mae’r targedau ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw gan Tony Hall yn rhai heriol iawn ac mae’n anochel y bydd effaith ar dimau pwysig sy’n gwneud gwaith hanfodol ac sydd wrth galon BBC Cymru. Ond mae’r cyd-destun ariannol ar gyfer y BBC yn glir a byddwn yn eistedd i lawr gyda’r timau a’r undebau i drafod y ffordd ymlaen.

“Drwy edrych am arbedion tu hwnt i raglenni, bydd y BBC yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau effaith y newidiadau ar ein cynnwys a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i’r gynulleidfa.”