Y band indie o Fanceinion, ‘James’ fydd yn cloi Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion eleni.
Fe fu’r band ar daith yn ystod y flwyddyn yn hyrwyddo’u halbwm ‘La Petite Mort’, ac yn chwarae rhai o’u caneuon mwyaf.
Dywedodd un o aelodau’r band, Jim Glenni: “Dw i’n caru Portmeirion ac alla i ddim credu ein bod ni’n mynd i chwarae gig yno. Mae’r ŵyl yn edrych yn wych. Alla i ddim aros.”
Bydd y cyfansoddwr Joe Duddell yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol i gyflwyno sesiynau yn Neuadd y Dref, ac fe fydd e’n cydweithio â Gaz Coombes, Edwyn Collins, Jane Weaver a Rae Morris i greu noson i’w chofio.
Hefyd ar y rhestr o berfformwyr mae’r cynhyrchydd hip-hop o Efrog Newydd, Arthur Baker, fydd yn brif atyniad ar y llwyfan Virgin Limits.
Fe fydd cyfle hefyd i weld y ffilm ‘Kill Your Friends’ ac i glywed sgwrs rhwng awdur y nofel wreiddiol, John Niven, y beirniad Irvine Welsh, y cyfarwyddwr Owen Harris a’r cynhyrchwyr Will Clarke a Gregor Cameron.
Yng Ngerddi’r Castell fydd ‘Bugged Out!’ gyda Justin Robertson, James Holroyd a Rob Bright, dathliad o 20 mlynedd ers rhyddhau ‘Electric Chair’, yn ogystal â pharti ‘Low Life’.
Bydd y cyfan yn cael ei gynnal rhwng Medi 3 a 6, ac fe fydd rhagor o artistiaid a pherfformwyr yn cael eu datgelu maes o law, gyda’r trefnwyr yn addo’r ŵyl Rhif 6 orau erioed.
Mae rhagor o fanylion am docynnau a gwersylla ar gael ar y wefan www.festivalnumber6.com