Mae Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith lleol mewn digwyddiad arbennig ym Marchnad Y Trallwng.

Cafodd ei dylunio gan Carwyn Owen, sy’n 20 oed, ac ef yw dylunydd a chrefftwr ieuengaf erioed y Gadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd Carwyn ei ddewis gan noddwyr y Gadair, sef Undeb Amaethwyr Cymru, Cangen Trefaldwyn, a hynny ar sail ei waith ar gyfer cystadlaethau Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ac Eisteddfod Powys.

Mewn datganiad, dywedodd Carwyn: “Cefais gyfleoedd lu i ddatblygu fy nghrefft wrth fod yn aelod o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, gan gystadlu yn y lle cyntaf, ac yna, ar sail hynny, cael fy ngwahodd i greu Cadair ar gyfer Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, cyn i mi gael fy ngwahodd i gynllunio Cadair Eisteddfod Powys, a oedd yn brosiect cyffrous iawn, a hynny pan oeddwn i’n dal i fod yn yr ysgol.”

Y Gadair

Mae ei ddyluniad yn seiliedig ar harddwch naturiol coed a mynyddoedd yr ardal leol, fel yr eglura Carwyn: “Cefais fy ysbrydoli gan harddwch naturiol y coedyn a chan y mynyddoedd yn yr ardal, gan stemio a phlygu’r pren er mwyn fy ngalluogi i ail-greu siâp y mynyddoedd yn y Gadair.

“Roedd hyn yn gyfle i gyfuno’r deunydd traddodiadol gyda ffyrdd newydd o weithio er mwyn creu cynllun modern mewn ffordd sy’n apelio ataf.

“Fe’m magwyd ar fferm, a dyma lle y datblygodd fy niddordeb mewn adeiladu. Creu pethau a gwaith coed – roedd rhywbeth angen ei drwsio drwy’r amser.

“Roedd fy nheidiau ar y ddwy ochr yn grefftwyr coed brwd, a bum yn ddigon ffodus i etifeddu gweithdy llawn gan un taid pan yn ifanc, a bu fy nhaid arall yn fy nysgu am y grefft o greu pethau cain allan o goed.

‘Braint aruthrol’

“Mae creu Cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn fraint aruthrol, yn enwedig i gynllunydd mor ifanc, ac mae’r prosiect wedi bod yn brofiad arbennig.  Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn hoffi’r Gadair, ac yn gobeithio hefyd y bydd teilyngdod, ac y bydd y Gadair yn cael lle amlwg yng nghartref y bardd buddugol.”

‘Creu hanes’

Wrth dderbyn y Gadair ar ran y Pwyllgor Gwaith, dywedodd y Cadeirydd, Beryl Vaughan: “Mae’n bleser o’r mwyaf derbyn Cadair mor hardd ar ran y Pwyllgor lleol, ond yn fwy na hynny, rydw i wrth fy modd ein bod ni’n creu hanes yma heno ym Maldwyn a’r Gororau.

“O edrych ar y Gadair hyfryd hon, mae’n anodd credu mai ugain oed yn unig yw Carwyn Owen, gwneuthurwr y Gadair, cymaint yw aeddfedrwydd a chywreinrwydd ei waith.

“Rydym yn llongyfarch Carwyn yn wresog ar ei waith a’i weledigaeth, ac yn hynod ddiolchgar i’r noddwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, Cangen Trefaldwyn, a rhoddwyr y wobr ariannol teulu’r diweddar Gyn-Archdderwydd, Emrys Roberts, am eu haelioni a’u cefnogaeth i’r Eisteddfod eleni, haelioni sydd yn ein galluogi ni i fod yma heno.

“Edrychwn ymlaen yn awr at y seremoni a gynhelir brynhawn Gwener 7 Awst yn y Pafiliwn, ac rwy’n siwr bod pawb, fel minnau, yn gobeithio y bydd teilyngdod a chartref teilwng i’r gadair hyfryd hon.”

Bydd y Gadair yn cael ei rhoi eleni am awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 250 o linellau, ar y thema ‘Gwe’.

Y beirniaid eleni yw Mererid Hopwood, John Gwilym Jones a Tom Morys.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod o 1-8 Awst.