Y Gemau Olympaidd yn 2012
Mae’r BBC yn wynebu’r posibiliad o golli ei hawliau darlledu ar gyfer y Gemau Olympaidd o 2022 ymlaen ar ôl i Eurosport dalu bron i biliwn o bunnau amdanynt.

Yn ystod Gemau Llundain 2012 fe ddangoswyd dros 2,500 awr o gystadlu byw, a llynedd fe gafwyd dros 650 awr o ddarlledu byw o Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi.

Ond mae Eurosport a’i rhiant gwmni Discovery nawr wedi talu €1.3biliwn (£920 miliwn) am yr hawliau darlledu hynny.

Dim ond 200 awr o’r Gemau Olympaidd a 100 awr o Gemau’r Gaeaf mae Eurosport wedi ymrwymo i ddarlledu’n fyw, ac fe allai’r hawliau darlledu hynny gael eu rhoi i gystadleuwyr y BBC.

Gwarchod rhai cystadlaethau

Mae’r Gemau Olympaidd ar y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon sydd wedi eu gwarchod ym Mhrydain, sydd yn golygu bod yn rhaid iddo fod ar sianeli teledu fydd yn eu dangos am ddim.

Ond dyw hynny ddim yn cynnwys darllediadau digidol a symudol, ac fe allai Discovery is-drwyddedu’r darllediadau ac uchafbwyntiau i’r BBC neu Channel 4.

Mae gan y BBC eisoes hawliau i ddangos y Gemau Olympaidd yn 2016, 2018 a 2020, ac fe ddywedodd y gorfforaeth y byddan nhw’n trafod hawliau darlledu â Discovery ar gyfer y blynyddoedd wedi hynny.

Ychwanegodd llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Thomas Bach, bod “digon o amser” gan y BBC i gynnal trafodaethau â Discovery er mwyn cydweithio i allu dangos y Gemau yn 2022 a 2024.