Roedd cannoedd o bobol yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yng Nghil-y-Coed brynhawn ddoe.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn nhref Y Fenni rhwng Gorffennaf 29 ac Awst 6 y flwyddyn nesaf.
Ymhlith y perfformwyr ar ddau lwyfan yn y dref yn ystod y dydd roedd ysgolion, corau, dawnswyr a llawer mwy.
Cafodd seremoni’r Cyhoeddi ei chynnal yng Nghastell Cil-y-Coed yn dilyn gorymdaith gan Orsedd y Beirdd a chynrychiolwyr o gymdeithasau a sefydliadau lleol.
Yn ystod y seremoni, cafodd y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau ei gyflwyno gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Frank Olding i’r Archdderwydd Christine.
Ar ddiwedd yr achlysur, dywedodd Frank Olding: “Roedd yr awyrgylch yn y dref yn arbennig drwy’r dydd, a diolch o galon i bawb a ddaeth allan i’n cefnogi.
“Mae cymaint o gefnogaeth yn lleol i’r Eisteddfod.
“Byddai wedi bod yn amhosibl dychmygu hyn ugain neu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ond mae pethau wedi newid.
“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni fod yn gweithio yma dros y Gymraeg a’n diwylliant yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau, ac mae ymateb trigolion y sir yn y Cyhoeddi yn argoeli’n dda iawn ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: “Hoffwn dalu teyrnged mawr i Frank a’r tîm yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau am y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud yn codi ymwybyddiaeth ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
“Roedd yr awyrgylch yng Nghil-y-Coed yn arbennig iawn, a dydw i ddim yn cofio’r fath frwdfrydedd yn y Cyhoeddi ers nifer o flynyddoedd.
“Mae’n rhaid diolch hefyd i Gyngor Sir Mynwy am bopeth. Mae cefnogaeth a’r cydweithio parod sy’n bodoli rhwng yr Eisteddfod a’r Cyngor yn ardderchog, a rydym yn ddiolchgar iddyn nhw am eu holl waith er mwyn sicrhau llwyddiant y Cyhoeddi.
Gŵyl deithiol
“I mi, dangosodd Cyhoeddi Eisteddfod 2016 bwysigrwydd parhad yr Eisteddfod fel gŵyl deithiol.
“Mae hon yn gornel o Gymru sydd heb gael cyfle i roi croeso i’r Eisteddfod ers dros ganrif.
“Ar ôl blwyddyn o gydweithio’n lleol gyda ddoe yn binacl i’r prosiect hyd yn hyn, rhaid diolch i’r trigolion, y Cyngor a’n gwirfoddolwyr a swyddogion lleol am y cyfle i ddod i ardal mor groesawgar a chyfeillgar sydd mor frwd dros yr Eisteddfod a’r dyfodol.
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw am y flwyddyn nesaf o gydweithio ac at Awst 2016.”